Newyddion S4C

Prinder meddyginiaeth 'yn ddatblygiad brawychus' yn sgîl Brexit

18/04/2024
Meddyginiaeth

Mae'r gadwyn gyflenwi meddyginiaeth yn y DU "wedi torri", a mae Brexit wedi gwneud y sefyllfa'n waeth, yn ôl ymchwil.

Mae arbenigwyr yn dweud fod prinder cyffuriau gwrthfeiotig a meddyginiaeth ar gyfer cyflyrau fel epilesi yn "ddatblygiad brawychus", sy'n cynyddu'r pwysau ar gleifion, meddygon, a fferyllwyr.

Mae ymchwil gan y Nuffield Trust ar ran y Sefydliad Iechyd  yn dangos fod y gadwyn gyflenwi meddyginiaeth yn y DU ac ar draws y byd yn "fregus".

Mae'r adroddiad yn dweud nad Brexit sydd wedi achosi'r prinder, ond mae wedi gwneud y sefyllfa'n waeth, oherwydd nad yw'r DU bellach yn ran o gadwyn gyflewni'r Undeb Ewropeaidd.

"Mae'r cynnydd yn y nifer o feddyginiaethau hanfodol sydd bellach yn  brin yn ddatblygiad brawychus, fyddai neb wedi ei ddisgwyl ddegawd yn ôl," meddai Mark Dayan o'r Nuffield Trust. 

"Mae mwy a mwy o gleifion ar draws y DU yn cael gwybod gan fferyllydd nad yw eu meddyginaieth ar gael, efallai na fydd ar gael yn fuan, ac efallai nad yw ar gael yn unman arall gerllaw. Mae hyn yn creu llawer mwy o waith i feddygon teulu a fferyllwyr."

'Wedi torri'

Mae'r adroddiad yn rhybuddio na all y sector iechyd ddisgwyl unrhyw newidiadau buan i'r berthynas rhwng y DU a'r Undeb Ewropeaidd. Felly mae'n galw ar y Llywodraeth yn San Steffan i wneud nifer o welliannau, gan gynnwys gwella'r systemau i ragweld prinder, a newidiadau sydyn mewn costau.

Dywedodd Dr Leyla Hannbeck, prif weithredwr y Gymdeithas Fferyllwyr Annibynnol: "Mae'r gadwyn gyflenwi meddyginiaethau wedi ei thorri ar bob level, ac os nad yw'r Adran Iechyd yn adolygu ei phrosesau, wnawn ni fyth greu'r sefydlogrwydd sy'n sicrhau bod cleifion yn cael eu presgripsiwn pan mae nhw ei angen."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.