Y Cymro sy’n bocsio’n Barcelona nos Sadwrn
Y Cymro sy’n bocsio’n Barcelona nos Sadwrn
Mae bocsiwr ifanc o Glwyd wedi teithio i Sbaen ar gyfer ei ffeit gyntaf ers i’r pandemig ddechrau.
Bydd Sion Yaxley o Rhuthun yn camu fewn i’r cylch bocsio yn ardal Badia del Vallès o’r ddinas.
Mae’n wynebu Ibrahima Sarr o’r Eidal am 19:00 nos Sadwrn.
Ers dechrau ei yrfa broffesiynol, mae Yaxley wedi ennill pob un o’r chwe ffeit iddo gystadlu ynddi.
Ac yntau yn safle 30 ar rengoedd bocsiwyr y Deyrnas Unedig erbyn hyn, mae’r gŵr 25 oed yn gobeithio gallu codi ei enw i lefel y teitlau Prydeinig.
Ond gyda Covid-19 yn dod â phopeth i stop, dywed wrth Clwyd TiFi fod y cyfnod wedi bod yn un “anodd” ar adegau.
“Geshi ffeit penwythnos jyst cyn mynd i lockdown, a nes i ennill honne.”
“Dwi heb bocsio ers ryw blwyddyn a hanner rwan. Oedd e’n anodd, achos do ni ddim yn pwsio fy hun mor galed a fyswn i swn i hefo ffeit.
“Dwi di colli blwyddyn a hanner, ond dwi dal yn eitha ifanc, diom fatha bod o ar ddiwedd career fi a bod o tha now or never.
“Dwi jyst yn goro delio hefo fo, dal i fynd a gweithio’n galed.
'Heb edrych yn ôl'
Mae’r ffeit yn gam mawr iddo ers dechrau ei gyfnod bocsio tra’n ddisgybl yn Ysgol Brynhyfryd.
“Nes i gychwyn bocsio pan o ni ryw 13 oed, o fi a ffrindia fi di sôn dechre, ond oedden nhw yn neud esgusodion bo nhw ddim isho mynd.
“Wedyn nath dad ofyn os o ni dal isho mynd, a dwi heb edrych yn ôl ers hynny,” meddai.
Bryd hynny, meddai, roedd ei fam yn cael hi’n anodd dod o hyd i unrhyw un iddo gystadlu yn eu herbyn, oherwydd prinder mewn bocsiwyr ifanc yn ardal Clwyd.
Byddai’n arfer codi’n fuan yn y bore i wylio ffeits ei arwyr, fel Joe Calzaghe, Roy Jones a Bernard Hopkins.
Nawr, wrth baratoi i wneud ei farc ei hun yn Sbaen nos Sadwrn, mae’n gobeithio cyrraedd ei “nod fawr”.
“Dwi jyst isho mynd mor bell a dwin meddwl dwin gallu mynd.
“Pwsho am titles, a gwneud y gorau dwi’n gallu.”
Gallwch wylio holl fideos am Sion Yaxley ar sianel YouTube Clwyd TiFi, un o bartneriaid teledu lleol S4C.