Newyddion S4C

Opera Cenedlaethol Cymru yn canslo perfformiadau oherwydd 'heriau ariannol cynyddol'

17/04/2024

Opera Cenedlaethol Cymru yn canslo perfformiadau oherwydd 'heriau ariannol cynyddol'

Un o gynyrchiadau diweddar y Cwmni Opera Cenedlaethol.

Maen nhw wedi bod yn teithio i Landudno ers blynyddoedd mawr ond fydden nhw ddim yno yn y gwanwyn y flwyddyn nesaf.

Cyhoeddodd Opera Cenedlaethol Cymru na fydd modd perfformio yn Venue Cymru fis Mai nesaf oherwydd eu bod rhaid cyflwyno arbedion cyllidebol sylweddol.

Mae'r cerddor Trystan Lewis, gafodd ei fagu yn ardal Llandudno wedi disgrifio hwn fel diwrnod trist i gerddoriaeth yng Nghymru.

"Adeiladwyd Venue Cymru er mwyn y WNO oherwydd roedd y theatrau a'r cyfleusterau'n annigonol.

"Ni'n colli allan fel Gogledd Cymru.

"Rhaid mynd i Lerpwl, Manceinion neu Lundain oherwydd hynny."

Bydd y cwmni ddim yn perfformio ym Mryste fis Chwefror nesaf chwaith.

Maen nhw wedi gweld gostyngiad yn eu cyllid gan gynghorau celfyddydol Cymru a Lloegr yn ddiweddar sy'n golygu bod yn rhaid gwneud dewisiadau anodd.

Mae 'na bryder ynglŷn ag effaith y penderfyniad yng Ngogledd Cymru.

"Dw i'n nabod lot o gantorion ifanc yn yr ardal.

"Mae cael access i opera yng ngogledd Cymru yn brin fel mae hi yn enwedig pan mae cwmniau llai fel Mid Wales Opera ac Opra Cymru wedi colli pres.

"Roedd Opera Cenedlaethol Cymru yn gyfle olaf i gantorion ifanc i gael blas o opera."

Mewn datganiad, dywedodd Cyngor Celfyddydau Cymru heddiw ei bod yn gyfnod heriol iawn i'r celfyddydau yng Nghymru a thu hwnt.

Rhaid gwneud penderfyniadau anodd.

Ychwanegodd llefarydd eu bod yn deall yr angen i Opera Cenedlaethol Cymru addasu ei rhaglen yng Nghymru a Lloegr ac y bydden nhw'n parhau i gydweithio'n agos a nhw ac eraill i wneud yn siwr fod opera yn cyrraedd cynifer o bobl â phosib.

Mae Opera Cenedlaethol Cymru wedi pwysleisio eu bod yn dal i ymweld a Venue Cymru yn yr hydref eleni ac yn bwriadu gwneud prosiect creadigol gydag ysgolion sir Conwy.

Ond fyddan nhw ddim yn perfformio yno y gwanwyn nesaf.

Does dim penderfyniadau eto ynglŷn a'r flwyddyn ar ôl nesaf er bod y cwmni yn pwysleisio bydden nhw'n parhau i deithio yng Nghymru a Lloegr.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.