Heddwas yn pledio'n ddieuog i achosi niwed corfforol difrifol i lanc ym Mangor
Mae heddwas gyda Heddlu Gogledd Cymru wedi pledio'n ddieuog i achosi niwed corfforol difrifol i lanc 17 oed tu allan i glwb nos ym Mangor.
Fe wnaeth PC Ellis Thomas, 24 oed, ymddangos o flaen Llys Ynadon Llandudno ddydd Mercher.
Mae'n dilyn digwyddiad honedig tu allan i Glwb Nos Cube ar noson 29 Ionawr, 2023.
Fe fydd PC Thomas yn ymddangos nesaf yn Llys y Goron Caernarfon ar 20 Mai.
Dechreuodd ymchwiliad Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu i'r digwyddiad ym mis Chwefror 2023, ar ôl i'r mater gael ei gyfeirio atynt gan Heddlu Gogledd Cymru.
Ar ddiwedd yr ymchwiliad. a barodd bum mis, anfonwyd ffeil o dystiolaeth i Wasanaeth Erlyn y Goron, sydd wedi awdurdodi'r cyhuddiad yn erbyn y swyddog.
Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi dweud wrth Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu bod y swyddog yn parhau ar ddyletswyddau cyfyngedig.