Newyddion S4C

Tebygol fod gŵr o ogledd Cymru ‘wedi syrthio i gysgu’ cyn gwrthdrawiad a laddodd ef a’i wraig

17/04/2024
John Jackson

Mae cwest wedi clywed bod gŵr o bosib wedi syrthio i gysgu cyn iddo ef a’i wraig farw mewn gwrthdrawiad â fan heddlu.

Roedd John Jackson, 60, wedi gyrru o Fwlchgwyn, Wrecsam, i RAF Brize Norton yn Swydd Rydychen gyda'i ferch Ffion i nôl ei wraig Nerys, 57.

Roedd hi oedd wedi bod yn gweithio dramor, ac roedd y teulu'n dychwelyd adref pan ddigwyddodd y ddamwain ar 9 Rhagfyr y llynedd.

Clywodd cwest ddydd Mercher fod Skoda Octavia Mr Jackson wedi methu a throi ar dro yn yr A458 yn Morville Heath, Sir Amwythig, tua 10.15am.

Roedd wedi  taro fan Ford Transit Heddlu Gorllewin Mersia a oedd yn cael ei gyrru gan Bethan Davis.

Roedd Ms Davis yn bresennol yn y cwest yn Llys Crwner Swydd Amwythig mewn cadair olwyn.

Fe gafodd hi a merch y cwpl eu hanafu'n ddifrifol yn y gwrthdrawiad, tra bu farw Mr a Mrs Jackson yn y fan a'r lle o anafiadau difrifol.

‘Dryslyd’

Wrth ddarllen datganiad gan Ffion Jackson, dywedodd yr uwch grwner John Ellery fod Mr Jackson wedi bod yn brysur yn y cartref teuluol yn tacluso drwy’r dydd cyn i Mrs Jackson gyrraedd adref o Ynys Ascension.

Dywedodd ei bod yn credu ei fod yn dal yn effro pan aeth i’w gwely tua hanner nos, cyn iddo ei deffro i gychwyn ar y daith car i Swydd Rhydychen tua 4yb.

Dywedodd ei bod hi wedi treulio llawer o'r daith yn ôl gyda chlustffonau ymlaen, yn mynd i mewn ac allan o gwsg, tra bod Mrs Jackson hefyd wedi sôn am gael rhywfaint o gwsg yn y sedd gefn. Roedd hi’n cofio gyrru trwy Stourbridge, ond wedyn ei hatgof nesaf oedd deffro’n “anghyfforddus a dryslyd” ar ôl y gwrthdrawiad.

Ychwanegodd fod ei thad wedi dweud ei fod yn “iawn i ddal ymlaen” pan wnaethon nhw stopio’n gynharach yng Ngwasanaethau Hopwood Park ar yr M42 i gael coffi ac ymestyn ei goesau.

Ni fyddai “wedi cario ‘mlaen pe na bai yn teimlo'n ddiogel i wneud hynny,” meddai.

‘Cwsg meicro’

Dywedodd Ronald Ball, oedd wedi bod yn gyrru y tu ôl i Mr Jackson ar yr A458 cyn y ddamwain, ei fod wedi gweld y Skoda yn “crwydro ar draws y llinell ganol”.

Roedd yn meddwl i ddechrau efallai bod y gyrrwr wedi meddwi, felly penderfynodd fynd heibio iddo gan adael cryn bellter rhyngddyn nhw.

Dywedodd Holly Wainwright, oedd yn gyrru y tu ôl i gar Mr Jackson adeg y gwrthdrawiad, ei fod wedi “drifftio” ar draws y llinellau gwyn i ochr arall y ffordd wrth iddyn nhw deithio tuag at dro yn y ffordd.

Gwyrodd cerbyd arall allan o'r ffordd cyn i'r Skoda daro fan yr heddlu.

Dywedodd y Ditectif Sarjant Julie Lyman, o Heddlu Gorllewin Canolbarth Lloegr, a ymchwiliodd i'r gwrthdrawiad, fod John Jackson o bosib wedi cael “cwsg meicro”.

‘Tebygol’

Dywedodd yr uwch grwner John Ellery nad oedd Mr Jackson wedi cymryd cyffuriau nac yfed alcohol ac nad oedd wedi bod ar ei ffôn cyn y ddamwain.

Dywedodd Mr Ellery: “Mae’r amgylchiadau’n ymddangos yn glir bod Mr Jackson, wrth yrru tuag adref, wedi drifftio i lwybr cerbyd yr heddlu.

“Ni allai Ms Davis fod wedi osgoi’r gwrthdrawiad.

“Er nad oes tystiolaeth uniongyrchol, mae’n ymddangos yn fwyaf tebygol bod Mr Jackson wedi cwympo i gysgu.”

Cofnododd y crwner fod Mr a Mrs Jackson wedi marw o ganlyniad i wrthdrawiad ar y ffordd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.