Newyddion S4C

Gollwng achos cyfreithiol yn erbyn athro oedd yn aelod o Bwncath

17/04/2024

Gollwng achos cyfreithiol yn erbyn athro oedd yn aelod o Bwncath

Mae'r achos cyfreithiol yn erbyn athro oedd yn aelod o'r band poblogaidd Bwncath wedi ei ollwng.

Roedd Alun Jones Williams, 26 oed, o ardal Pwllheli wedi ei gyhuddo ym mis Tachwedd y llynedd o gyfathrebu'n rhywiol â phlentyn.

Roedd wedi gwadu'r cyhuddiad yn ei erbyn.

Mewn gwrandawiad byr yn Gymraeg o flaen y Barnwr Nicola Saffman yn Llys y Goron Caernarfon fore dydd Mercher, clywodd Mr Jones Williams na fyddai Gwasanaeth Erlyn y Goron bellach yn parhau gyda'r achos.

Dywedodd Georgia Donohue KC, bargyfreithiwr yr erlyniad, fod yr erlyniad wedi adolygu'r achos ac nid oeddynt am gynnig unrhyw dystiolaeth.

Dywedodd bargyfreithiwr Mr Jones Williams, Elen Owen KC, wrth y gwrandawiad nad oedd ganddi unrhyw amheuaeth na fyddai ei chleient wedi cael ei gyhuddo yn y lle cyntaf petai'r ymchwiliad wedi cael ei gynnal yn iawn.

Pan gafodd Alun Jones Williams ei gyhuddo'r llynedd, dywedodd Cyngor Gwynedd, cyflogwr Mr Jones Williams, ei fod wedi ei atal o’i waith.

'Profiad afiach'

Dywedodd Alun Jones Williams mewn datganiad yn dilyn y gwrandawiad fod ei "enw da yn deilchion".

"Rwyf yn hynod falch o gael fy nghanfod yn ddieuog o'r diwedd," meddai.

"Mae'n ryddhad i mi bod cyfiawnder wedi ennill y dydd.

"Cefais fy nal yn y ddalfa am dros ddeg awr ar hugain gan bod cyhuddiad brys di-sail yn cael ei roi yn fy erbyn. Yna, cefais fy nhywys yn ddi fechniaeth gerbron Llys. Nid oedd archwiliad cywir o'r dystiolaeth, ac mae fy enw da yn deilchion o'r herwydd."

Ychwanegodd: "Mawr yw fy niolch i Michael Strain, staff Strain a'i Gwmni, ac Elen Owen fy Margyfreithwraig am eu cadernid, gwaith diflino a chefnogaeth.

"Ond, yn fwyaf oll, mae fy niolch yn enfawr i fy nheulu a fy ffrindiau sydd wedi rhoi cariad a chefnogaeth i mi drwy'r hunllef parhaus yma dros y chwe mis diwethaf.

"Byddwn i ddim yn dymuno'r profiad afiach yma ar neb. Fydd fy mywyd byth yr un fath eto ar ôl hyn.

"Rwyf am gymryd amser gyda fy nheulu a fy ffrindiau i geisio dod yn ôl ataf fy hun, ac i drio rhoi'r mater yma tu ôl i mi. Yn sicr, fydd y profiad dirdynnol hwn yn aros efo mi tra byddaf fyw.

"Diolch i chi gyd am y gefnogaeth sydd wedi ei ddangos i mi a fy nheulu dros y cyfnod arteithiol hwn."

Mewn datganiad dywedodd band Bwncath: "Nid ydym yn teimlo ei bod hi'n briodol i ni wneud unrhyw ddatganiad pellach fel band, ond fel unigolion rydym yn dymuno'r gorau i bawb sydd wedi eu heffeithio gan yr achos hwn wrth symud ymlaen."

'Deunydd ychwanegol'

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd: "Yn unol a gweithdrefnau cyflogaeth ysgolion, mae unrhyw aelod o staff sydd mewn sefyllfa o ymddiriedaeth sydd wedi ei arestio gan yr Heddlu yn cael eu hatal o’r gwaith hyd nes bydd yr holl ymchwiliadau wedi eu cwblhau. Mae atal o’r gwaith yn weithred niwtral heb ragfarn.

"Rydym yn nodi penderfyniad y llys heddiw a ni fyddai’n briodol i ni wneud sylw ar fater cyflogaeth unrhyw unigolyn."

Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Erlyn y Goron: “Troseddau rhywiol yw rhai o’r achosion mwyaf difrifol rydyn ni’n eu herlyn.

“Mae gennym ddyletswydd i gadw pob achos dan adolygiad parhaus, ac yn dilyn derbyn deunydd ychwanegol gan yr heddlu, daethom i’r casgliad nad oedd y prawf cyfreithiol ar gyfer erlyniad bellach yn cael ei fodloni. 

"Mewn gwrandawiad yn Llys y Goron heddiw, 17 Ebrill 2024 cafodd yr achos ei atal.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.