Llofruddiaeth George Floyd: Carchar am dros 22 mlynedd i Derek Chauvin

Mae'r cyn-heddwas Derek Chauvin wedi cael ei ddedfrydu i 22 mlynedd a hanner dan glo.
Cafwyd Chauvin, 45, yn euog fis Ebrill o lofruddiaeth a dynladdiad am bwyso ei ben-glin ar wddf Floyd am tua naw munud a 30 eiliad.
Yn siarad gyda Sky News wedi'r ddedfryd, mae partner Mr Floyd, Courteney Ross, wedi dweud ei bod wedi "synnu" nad oedd y ddedfryd yn hirach.
"Rwy'n synnu nad oedd hi'n ddedfryd hirach, ond mae'n ddechrau.
“Rydw i eisiau i ni barhau â’r frwydr hwn a pheidio â rhoi’r gorau.
"Mae ychydig yn siomedig."
Darllenwch y stori'n llawn yma.