Newyddion S4C

Oriau ar ôl i gofrestru ar gyfer etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu

16/04/2024
Heddlu

Dim ond oriau yn unig sydd ar ôl i gofrestru ar gyfer etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throsedd.

Fe fydd yr etholiadau yn cael eu cynnal ar 2 Mai, gyda phedwar o gomisiynwyr heddlu yng Nghymru  yn cael eu hethol.

Mae'r comisiynwyr at gyfer lluoedd Heddlu Gogledd Cymru, Dyfed Powys, Gwent a De Cymru.

Fe fydd ymgeiswyr o bedair prif blaid wleidyddol Cymru yn sefyll ar gyfer pob un o'r lluoedd, sef y Ceidwadwyr, y Democratiaid Rhyddfrydol, y Blaid Lafur a Phlaid Cymru.

Mae gan bobl sydd heb bleidleisio eto, neu sydd ddim yn siŵr os ydyn nhw'n gymwys i wneud hynny, tan 23:59 nos Fawrth i ymgeisio. 

Dywedodd Cyfarwyddwr Cyfathrebu y Comisiwn Etholiadol, Craig Westwood: "Heddiw ydi'r diwrnod olaf i gofrestru i bleidleisio ar gyfer yr etholiadau ar 2 Mai.

"Dim ond pobl sydd wedi cofrestru sydd yn gallu dweud eu dweud ar faterion pwysig yn eich ardal leol, felly peidiwch ag oedi. 

"Mae cofrestru i bleidleisio yn gyflym ac yn hawdd - y cwbl sydd ei angen ydi eich enw, dyddiad geni, cyfeiriad a'ch rhif Yswiriant Gwladol."

Bydd yn rhaid i'r holl bleidleiswyr sydd yn bwriadu pleidleisio ar 2 Mai hefyd ddangos llun i'w hadnabod yn yr orsaf bleidleisio y tro yma. 

Nid yw pob math o lun yn dderbyniol, ond mae pasbort, trwydded yrru a bathodyn glas i gyd yn gymwys.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.