Newyddion S4C

Israel yn saethu dros 300 o ddronau Iran gyda chymorth America a Phrydain

14/04/2024

Israel yn saethu dros 300 o ddronau Iran gyda chymorth America a Phrydain

Mae Lluoedd Amddiffyn Israel (IDF) wedi cadarnhau fod dros 300 o ddronau a thaflegrau a lansiwyd gan Iran wedi eu hatal gan eu system amddiffyn y Llen Haearn (Iron Dome).

Mae'r wladwriaeth hefyd wedi cadarnhau fod nifer fach o ergydion wedi taro'r diriogaeth, gan gynnwys mewn canolfan IDF yn ne Israel, a bod un plentyn wedi'i anafu.

Mae’r ymosodiad digynsail yma gan Iran yn nodi’r tro cyntaf i’r wlad Islamaidd dargedu Israel yn uniongyrchol o’i thiriogaeth ei hun, ac mae’r ymosodiad yn weithred o ddial am ymosodiad blaenorol gan Israel a laddodd arweinydd milwrol o Iran yn Damascus yn gynharach y mis hwn.

Roedd seirenau i’w clywed ar draws Israel a chlywyd ffrwydradau yn uchel dros Jerwsalem, gyda systemau amddiffyn awyr yn saethu gwrthrychau i lawr dros y ddinas yn ystod oriau mân y bore.

Mae’r Arlywydd Biden wedi dweud wrth Israel fod cefnogaeth America i’w chynghreiriad yn “haearnaidd”, gan ychwanegu bod yr Unol Daleithiau wedi helpu i “ddileu bron pob un o’r dronau a’r taflegrau ddaeth i gyfeiriad Israel.”

Mae Gweinidog Amddiffyn y DU, Grant Shapps, wedi condemnio’r “ymosodiad hurt” ac yn dweud bod jetiau RAF ychwanegol wedi cael eu hanfon i’r rhanbarth.

Image
Netanyahu

Cyhoeddodd Prif Weinidog Israel, Benjamin Netanyahu, neges yn dweud bod lluoedd arfog y wlad yn barod am ymosodiad pellach.

“Pwy bynnag sy’n ein brifo ni, mi wnawn ni eu brifo nhw,” meddai.

“Byddwn yn amddiffyn ein hunain rhag unrhyw fygythiad a byddwn yn gwneud hynny yn gwbl benderfynol.”

Roedd adroddiadau fod Iran wedi rhybuddio eu cynghreiriaid o'u bwriad i ymosod ar Israel hyd at 72 awr cyn dechrau'r ymosodiad.

Cadarnhaodd Gwarchodlu Chwyldroadol Iran yr ymosodiad gan ddweud eu bod nhw lansio “dwsinau o ddronau a thaflegrau” yn erbyn “targedau penodol” yn Israel.

Daw'r ymosodiad wedi i Arlywydd yr Unol Daleithiau Joe Biden rybuddio Iran i beidio ag ymosod ar Israel.

'Tywallt gwaed'

Dywedodd Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, Rishi Sunak ei fod yn condemnio “yn y termau cryfaf ymosodiad di-hid cyfundrefn Iran yn erbyn Israel”.

Roedd yr ymosodiad yn "ansefydlogi'r rhanbarth," meddai.

“Mae Iran wedi dangos unwaith eto eu bod yn bwriadu hau anhrefn yn eu iard gefn eu hunain.

“Bydd y DU yn parhau i gefnogi diogelwch Israel a diogelwch ein holl bartneriaid rhanbarthol, gan gynnwys yr Iorddonen ac Irac.

"Ochr yn ochr â'n cynghreiriaid, rydym yn gweithio ar frys i sefydlogi'r sefyllfa ac atal pethau rhag gwaethygu ymhellach. 

"Does neb eisiau gweld mwy o dywallt gwaed."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.