Newyddion S4C

Arestio pump person ar ôl canfod corff babi mewn tŷ

13/04/2024
Heddlu Manceinion

Mae heddlu Manceinion wedi arestio pump o bobl ar ôl i weddillion babi gael eu darganfod mewn tŷ yn Wigan.

Mae pump o bobl rhwng 20 a 70 oed wedi eu harestio ar amheuaeth o guddio marwolaeth a chladdu anghyfreithlon.

Dywedodd yr heddlu fod yr olygfa yn “un torcalonnus”.

Mae’r pump gafodd eu harestio wedi eu rhyddhau ar fechnïaeth, meddai’r heddlu.

Dywedodd y Prif Arolygydd Clare Jenkins: “Mae hyn yn ddarganfyddiad torcalonnus a dwi ddim yn lleihau'r effaith fydd y newyddion yma’n cael ar y gymuned leol.

"Hoffwn dawelu meddyliau pawb fod gennym sawl tîm o swyddogion ac adnoddau arbenigol sy’n gweithio’n ddiwyd i ddod o hyd i atebion.

“Rydym yn hydrus fod y digwyddiad yn un unigol ac nad oes unrhyw fygythiad i’r gymuned ehangach.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.