Menyw wedi ei hanafu'n ddifrifol ar ôl cael ei tharo gan gar
25/06/2021
Mae menyw wedi cael ei chludo i’r ysbyty ar ôl iddi gael ei tharo gan gar ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Yn dilyn y gwrthdrawiad fe yrrodd y cerbyd i ffwrdd medd yr heddlu.
Cafodd y fenyw ei tharo wrth gerdded ger Heol Barnes yng Nghefn Glas am 11:00 fore dydd Gwener.
Yn ôl Heddlu De Cymru mae’r fenyw wedi cael ei hanafu’n ddifrifol.
Mae swyddogion yn apelio ar yrrwr y car i gysylltu gyda nhw ac yn annog llygad-dystion i'r digwyddiad neu unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu.