Pwysau’n cynyddu ar Angela Rayner i gamu o'r neilltu
Pwysau’n cynyddu ar Angela Rayner i gamu o'r neilltu
Mae’r pwysau’n cynyddu ar ddirprwy arweinydd y blaid Lafur, Angela Rayner, i gamu o’r neilltu un sgil honiadau ei bod wedi torri’r gyfraith.
Mae Ms Rayner wedi dweud y byddai’n “gwneud y peth cywir” a chamu o’r neilltu pe bai iddi’n ei chael yn euog o dorri’r gyfraith etholiadol.
Ond mae’r gwleidydd hefyd wedi dweud ei bod yn “hyderus” fod hi wedi “dilyn y rheolau ar bob achlysur,” yn dilyn honiadau ei bod wedi rhoi gwybodaeth ffug ynglŷn â’i phrif gartref.
Mae’r heddlu wedi ailagor ymchwiliad yn sgil yr honiadau, ac fe ddywedodd Heddlu Manceinion eu bod yn cynnal “ailasesiad o’r wybodaeth a ddarparwyd i ni”.
Maen nhw'n ymchwilio i weld a wnaeth hi ddatganiad ffug ar y gofrestr etholiadol, ac mae Angela Rayner eisoes wedi gwadu hynny.
Mewn datganiad ddydd Gwener, dywedodd Ms Rayner: “Rwyf wedi dweud o hyd byddai’n croesawu’r cyfle i eistedd i lawr gyda’r awdurdodau priodol, gan gynnwys yr heddlu a HMRC, i nodi’r ffeithiau a thynnu llinell o dan y mater hwn.
“Rwy’n gwbl hyderus fy mod i wedi dilyn y rheolau ar bob achlysur.
“Rwyf bob amser wedi dweud bod atebolrwydd yn hollbwysig mewn gwleidyddiaeth.
“Dyna pam ei bod yn hanfodol bod y mater yma’n cael ei ymdrin ar unwaith, yn annibynnol a heb ymyrraeth wleidyddol.”
Fe ddaw’r ymchwiliad newydd ar ôl i James Daly, dirprwy gadeirydd y Blaid Geidwadol, ddweud bod cymdogion yn gwrth-ddweud datganiad Ms Rayner mai ei heiddo hi, ar wahân i eiddo ei gŵr, oedd ei phrif gartref.
Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Manceinion ddydd Gwener: “Rydym yn ymchwilio i weld a oes unrhyw droseddau wedi digwydd.
"Mae hyn yn dilyn ailasesiad o’r wybodaeth a ddarparwyd i ni gan Mr Daly.”
Dywedodd y Blaid Lafur ei bod yn parhau’n hyderus bod Ms Rayner wedi cydymffurfio â’r rheolau, ac mae AS Ashton-under-Lyne yn “croesawu’r cyfle i nodi’r ffeithiau gyda’r heddlu”.
Llun: Tŷ'r Cyffredin