Newyddion S4C

Vaughan Gething na Rishi Sunak 'mewn sefyllfa rymus' yn wleidyddol

11/04/2024

Vaughan Gething na Rishi Sunak 'mewn sefyllfa rymus' yn wleidyddol

Ddiwedd mis Mawrth, roedd newid mawr yng ngwleidyddiaeth Cymru wrth i Vaughan Gething gael ei ethol yn Arweinydd y Blaid Lafur yma - ac yn Brif Weinidog Cymru yn ei dro. 

Ond gydag etholiad cyffredinol ar y gorwel, mae sawl un yn darogan newid mawr yn San Steffan hefyd. Wrth inni ddisgwyl dyddiad i gael ei gyhoeddi ar gyfer yr etholiad, ac ar drothwy cyfres newydd, fe ofynnodd rhaglen Y Byd yn ei Le i’r Athro Richard Wyn Jones, sydd ar y soffa gyda Catrin Haf Jones bob wythnos, am ei argraffiadau am yr hyn sydd o’n blaenau.

Vaughan Gething mewn “sefyllfa wan iawn”

Mae’r ffordd enillodd Vaughan Gething, a’r canfyddiad ymysg ei wrthwynebwyr fod o wedi ymddwyn mewn ffyrdd llaiu nag anrhydeddus i ennill ei fuddugoliaeth trwch blewyn o yn golygu ei fod o mewn sefyllfa wan iawn wrth gychwyn.

O bersbectif Cymreig o ran ein glweidyddiaeth ni ar hyn o bryd, mae gen ti arweinydd newydd sbon yng Nghymru sy’n ymddangos yn wan cyn cychwyn, ac mae gen ti Brif Weinidog ar lefel Brydeinig sy’ erbyn hyn jyst yn llusgo byw. Ac am resymau gwahanol iawn, dydy’r naill neu’r llall ddim yn edrych fel petaen nhw mewn sefyllfa rymus.”

Arolygon barn “trychinebus” i’r Ceidwadwyr

“Da ni wedi bod yn troi yn yr un hen ddŵr ers cyfnod estynedig iawn rwan. Ma’r arolygon barn yn drychinebus o safbwynt y Ceidwadwyr. Does ‘na ddim byd mae Rishi Sunak na’i Ganghellor o yn ei wneud yn newid hynny mewn unrhyw ffordd.

“Felly yr unig gwestiwn mewn ffordd ydy pryd mae’r etholwyr yn mynd i gael cyflwyno’r dedfryd maen nhw’n amlwg wedi ei gyrraedd ers talwm iawn. 

“Mi oedd yna ddyfalu y gallen ni gael etholiad cyffredinol ddechrau Mai - dydy hynny yn amlwg heb ddigwydd a’r dybiaeth gyffredinol rwan ydy y bydd o’n dal ati tan yr Hydref. Does dim rheswm i amau hynny, yr unig beth ydy, fe allai’r etholiadau lleol yn Lloegr fod yn wirioneddol drychinebus o ran yr hyn sy’n weddill o hygrydedd gwleidyddol Sunak, a does na ddim llawer o hwnnw ar ôl.

“Bydd pawb wedi gweld y dyfalu yn y wasg o ran rhywun yn mynd i herio Sunak am arweinyddiaeth y Blaid Geidwadol, ond mae llywodraeth Sunak yn llusgo byw. Maen nhw ar drothwy cosfa. Yr unig gwestiwn ydy pa mor alaethus fydd eu perfformiad nhw.

“O safbwynt Cymreig, ydan ni’n mynd i weld ailadrodd 1997, neu 2001 pan ddaru’r Ceidwadwyr ddim ennill dim un sedd yng Nghymru - mae hynny yn bosibilrwydd real iawn, iawn ar hyn o bryd. 

Gaza, Wcrain, ac etholiad America

“Da ni chwe mis mewn i gyrch milwrol Israel yn Gaza. Mae’r Llys Rhyngwladol wedi dweud fod ‘na reswm i bryderu fod ‘na hil-laddiad yn digwydd. Er gwaetha’ hynny, mae gwledydd fel Prydain a’r Unol Daleithiau dal i anfon arfau i Israel. 

“Canlyniad hyn oll, canlyniad beth sy’n digwydd yn Wcrain ydy bod y drefn ryngwladol, y syniad o normau ac o gyfraith ryngwladol, yn wannach nag y mae wedi bod ar unrhyw gyfnod ers yr Ail Ryfel Byd. 

“Mae hygrededd cyfraith ryngwladol yn racs. Mae hynny yn destun pryder mawr. Mae hefyd yn codi cwestiynau mawr am sefyllfa Prydain ar ôl Brexit pan ame gen ti sefyllfa lle mae’r drefn ryngwladol yn troi’n fwyfwy anhrefnus. 

“Mae’n ymddangos yn gyfnod annoeth, o bosib, i fynd ar dy liwt dy hun yn economaidd fel mae Prydain wedi dewis gwneud. 

“Dwi’n meddwl dy fod di’n gorfod rhoi Gaza ac Wcrain ochr yn ochr â’i gilydd, lle mae pawb yn anwybyddu cyfraith ryngwladol pan mae o’n ei siwtio nhw. 

“Ac wrth gwrs, ar y gorwel, mae gennynni’r posibiliad o Arlywydd yn cael ei ethol yn America sydd wedi ei gwneud hi’n gwbl amlwg bod o’n ddirmygus hyd yn oed o ymrwymiadau America i NATO.

“Yn rhyngwladol, ma ‘rhain yn ddyddiau dreng ofnadwy.”

Bydd cyfres newydd o’r Byd yn ei Le yn dechrau nos Iau 11 Ebrill am 21:00, ac ar gael i'w gwylio ar S4C, S4C Clic, a BBC iPlayer. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.