'Total Eclipse' yn cyrraedd y brig yr un pryd a'r total eclips
Mae sengl fyd-enwog y Gymraes Bonnie Tyler wedi cyrraedd brig y siartiau ar ôl i eclips solar dywyllu Mecsico, yr Unol Daleithiau a Chanada ddydd Llun.
Mae’r gân, 'Total Eclipse of the Heart', bellach wedi cyrraedd brig y siartiau iTunes yn yr Unol Daleithiau – 40 mlynedd ers iddi gyrraedd safle rhif un yn y siartiau am y tro gyntaf yn 1983.
Benson Boon oedd yn rhif un gyda'i gân Beautiful Things.
Inline Tweet: https://twitter.com/WORLDMUSICAWARD/status/1777488865411924070
Ddydd Llun roedd cannoedd ar filoedd o bobl wedi ymgynnull ym Mecsico, yr Unol Daleithiau a Chanada er mwyn gwylio'r eclips.
Roedd y lleuad wedi symud rhwng yr haul a’r ddaear, gan gael gwared ag unrhyw olau dydd.
Fe ddechreuodd yr eclips ym Mecsico, gan deithio i’r gogledd-ddwyrain ar hyd yr Unol Daleithiau a dod i ben yn nhalaith Newfoundland yng Nghanada.