Blaenau Gwent: Rhybudd i grŵp o Deithwyr i roi'r gorau i gloddio bryn
Mae grŵp o Deithwyr wedi cael gorchymyn i roi’r gorau i gloddio ochr bryn yn y Cymoedd.
Mae Cyngor Blaenau Gwent wedi rhoi “rhybudd atal” i’r tirfeddianwyr ar ôl i bobl leol fynegi pryderon am dirlithriad.
Mae'r tir wedi'i dynnu o gae ar lethr drws nesaf i Glwb Rygbi Nantyglo ym Mlaenau Gwent.
Mae'r gwaith wedi bod yn mynd rhagddo ers mwy nag wythnos, gyda thrigolion yn cwyno am beiriannau trwm ers diwedd mis Mawrth.
Gall rhybuddion atal gael eu cyflwyno gan awdurdodau cynllunio pan fo pryderon bod rheolau cynllunio wedi’u torri.
Yn yr achos hwn, bydd rhybudd y cyngor yn ei le am 28 diwrnod.
'Ar unwaith'
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Blaenau Gwent: “Rydym o’r farn bod yna dor-rheolaeth cynllunio wedi bod oherwydd cloddio’r tir hwn heb awdurdod.
“Mae hyn yn cynnwys mewnforio deunydd, creu argloddiau ac ail-broffilio’r ardal.
“Mae’r rhybudd yn mynnu bod y gweithgaredd yn cael ei atal ar unwaith.”
Dywedodd y cyngor hefyd ei fod wedi comisiynu arbenigwyr annibynnol i asesu sefydlogrwydd y tir.
Ond maen nhw wedi dod i'r casgliad nad oedd unrhyw risg uniongyrchol i eiddo yn yr ardal.
Llun gan Ben Birchall / PA.