Golygfeydd o natur rywiol: 'Hollbwysig sicrhau lles cast a chriw'
Mae hi'n 'hollbwysig sicrhau lles cast a chriw' yn y byd actio wrth ymdrin â golygfeydd o natur rywiol yn ôl un o berfformwyr Cymru.
Fe gymhwysodd y gantores a'r actores Lisa Jên Brown o Fethesda fel Cydlynydd Agosatrwydd, neu Intimacy Coordinator, yn gynharach eleni, ac mae'n awyddus i bwysleisio pwysigrwydd y rôl yn y byd ffilm a theledu yng Nghymru.
Mae cydlynydd agosatrwydd yn sicrhau lles actorion sy'n rhan o unrhyw olygfa o natur rywiol neu olygfeydd yn ymwneud ag agostarwydd yn y diwydiant.
Dywedodd Lisa wrth Newyddion S4C: "Y math yma o swydd, fyswn i’n disgrifio fo fel trio dod â gweledigaeth sgwennwr, cyfarwyddwr, yn fyw ar sgrîn drwy ddefnyddio’r dulliau mwya diogel bosib.
"So bo’ chdi’n dod ag actorion, criw, i fewn ag allan o rywbeth yn saff a gwneud yn siwr bod pawb yn teimlo yn hapus yn gyfforddus a ddim yn cael eu gorfodi i neud unrhyw beth dydyn nhw ddim yn gyfforddus efo."
Yn ôl Lisa, mae pwysigrwydd cael cydlynydd o'r fath ar set ffilm neu deledu wedi cynyddu yn sylweddol yn sgil symudiad MeToo, a welodd nifer o fenywod yn siarad yn gyhoeddus am eu profiadau o gamdriniaeth rywiol.
Fe benderfynodd hyfforddi yn y rôl a hynny wedi iddi deimlo yn fregus ar set ar adegau yn ystod ei gyrfa.
"Dwi ‘di bod yn actio ers o’n i’n ifanc iawn, o’n i’n 14 oed yn cychwyn ar Rownd a Rownd yn ôl yn 1994 a dwi’n actio wan ers 30 o flynyddoedd a dwi’n caru actio," meddai.
"Oedd o jyst yn rywbeth o’dd genna fi ddiddordeb mewn achos dwi ‘di bod mewn sefyllfaoedd lle dwi ddim wedi teimlo’n saff ar set. Nôl yn y 90au, doedd ‘na ddim ffasiwn beth ag Intimacy Coordinator. Mae o’n lle rili vulnerable i fod a dwi ‘di bod yn y sefyllfa yna.
"Pan nath y cyfle i hyfforddi ddod ymlaen, o’n i’n teimlo fel bod o’n rwbath o’n i’n teimlo yn angerddol iawn amdano a dwi isio bod yna i actorion eraill sydd wedi teimlo mor vulnerable â dwi wedi."
Hyfforddodd Lisa gyda chwmni Moving Body Arts, sy'n arbenigwyr blaenllaw yn y maes, gyda'r hyfforddiant yn digwydd ar Zoom yn ogystal ag yn ninas Rhufain yn Yr Eidal.
"Yn amlwg efo golygfeydd o’r natur yma, dydi o ddim yn digwydd go iawn wrth reswm, so mae o’n eitha specific o ran coreograffi so o’n i’n Rhufain yn dysgu sut i neud hynna," meddai.
Mae Lisa hefyd yn awyddus i bwysleisio fod angen ymdrin â golygfeydd o natur rywiol yn yr un ffordd â rhai o natur dreisgar.
"Ma’n bwysig cofio fysa chdi byth yn neud golygfa lle ma’ ‘na gwffio a paffio heb Fight Coordinator so pam fysa chdi’n neud golygfeydd o natur rywiol heb Intimacy Coordinator? Felly ma’n bwysig meddwl lle ‘dan ni fel Intimacy Coordinators ar yr un lefel â Stunt Coordinators a Fight Coordinators," meddai.
Mae Lisa yn un o'r cydlwynwyr agosatrwydd cyntaf sy'n siarad Cymraeg, ac mae hynny yn rywbeth pwysig iawn iddi.
"‘O be dwi’n ddalld, does ‘na definitely ddim un sy’n siarad Cymraeg yn y byd," meddai.
"Ma’ ‘na betha’n cael eu cynhyrchu diolch yng Nghymru ac i S4C, a dwi’n meddwl bod o’n bwysig iawn i actorion iaith Gymraeg sydd yn gwneud cynhyrchiadau Cymraeg fod yn medru delio efo golygfeydd o natur rywiol efo rywun sy’n gallu siarad Cymraeg hefyd so dwi’n angerddol bo’ fi hefyd yn mynd i fod yn Intimacy Coordinator sy’n siarad Cymraeg ar gynhyrchiadau.
'Hanfodol'
Mae angen i gynhyrchiadau a chyfarwyddwr sylweddoli pa mor bwysig ydy sicrhau lles actorion mewn sefyllfaoedd bregus ar set ffilm neu deledu yn ôl Lisa.
"Dim ots pa mor fach neu pa mor fawr ydi’r olygfa, os oes 'na bobl yn cyffwrdd, neu’n siarad am ryw neu ryw fath o intimacy, dwi’n meddwl bod o’n bwysig bo ni’n cael y sgyrsia ma a bod pobl yn dod ag Intimacy Coordinators on board," meddai.
"Dwi’n meddwl bod o wastad yn sgwrs hanfodol bwysig i gael, i checio fewn efo pawb o hyd, i ddod â pobl i fewn i olygfa yn saff a dod â nhw allan ohona fo yn saff hefyd er mwyn cael y perfformiad gora a’r gwaith gora allan o bawb."
