Newyddion S4C

Mam 'mor browd' o blentyn tair oed wedi i fideo ohono'n ffermio ddenu miloedd ar y rhyngrwyd

Mam 'mor browd' o blentyn tair oed wedi i fideo ohono'n ffermio ddenu miloedd ar y rhyngrwyd

Mae rhieni plentyn tair oed wedi dweud eu bod nhw "mor browd" ohono am symud defaid i gorlan ben ei hun wedi i fideo ohono ddenu sylw degau o filoedd ar y cyfryngau cymdeithasol.

Symudodd Dewi, sydd yn byw gyda'i rieni Ieuan Bowen a Poppy Archer ar ffarm Woodlands ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr, dau oen a'u mam i ffald ar wahân i'r defaid eraill ar ei ben ei hun, gyda'i rieni yn agos i gadw llygaid arno.

Cafodd fideo ohono wrth ei waith ei rannu ar Facebook a X (Twitter gynt) gan ddenu degau o filoedd o wylwyr ac ymatebion.

Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd Ms Archer bod ei ymdrechion wedi "dod a deigryn i fy llygad."

"Roedd e wir yn anhygoel," meddai. "Mae'n dysgu llawer ar y ffarm, mae'n dilyn ei dad i bobman ac yn gwneud bob dim gydag ef.

"I Dewi wneud hynny ar ben ei hun, i wybod bod angen iddynt fynd i'r gorlan ei hun, oherwydd mae'n rhaid i chi gael y mam a'u wyn yn yr un ffald yn syth. Ac roedd e'n gwybod hynny a wedi gwneud yn siŵr eu bod nhw'n ddiogel.

"Roedd e wedi dod a deigryn i fy llygad, roedd e'n foment hyfryd ac rydym ni mor mor browd ohono."

'Mor naturiol'

Mae gan Dewi diddordeb mawr mewn ffarmio, ac yn hoff iawn o weithio gyda'i rieni ar y ffarm.

O reidio beiciau cwad i helpu bwydo anifeiliaid, mae'r plentyn tair oed yn byw a bod gyda ffarmio.

Gobaith y teulu yw y byddai Dewi yn cymryd rheolaeth o'r ffarm un diwrnod- y trydedd genhedlaeth o ffermwyr a ddechreuodd yn ffarmio defaid yn Abersoch yng Ngwynedd.

"Mae'r hyn mae'n ei wneud o ddydd o ddydd yn anhygoel, rydym wedi dod i arfer erbyn hyn," meddai Poppy Archer.

"Mae e wedi dysgu mor gyflym, rydym ni wedi dod i arfer erbyn hyn. Mae bob dim mae'n ei wneud yn anhygoel am blentyn tair oed, mae e mor naturiol o gwmpas yr anifeiliaid.

"Mae e eisiau bod ar y ffarm gyda'i dad trwy'r amser."

Llun: Instagram / DewiTheShepherd

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.