Saethu draenog: Apêl am wybodaeth gan RSPCA Cymru
Mae elusen RSPCA Cymru wedi apelio am wybodaeth wedi i ddraenog farw ar ôl cael ei saethu gyda dryll awyr.
Fe gafodd y draenog ei ganfod, yn fyw gydag anafiadau, ar Heol Benfro yn Hwlffordd, Sir Benfro ddiwedd mis Mawrth.
Fe gasglodd Ginny Batt, sef perchennog ‘Hogs-pital’ Sir Benfro, y draenog ar ddydd Sadwrn, 23 Mawrth, cyn sylweddoli natur difrifol anafiadau y creadur.
Fe aeth â hi â’r draenog i’r milfeddyg ddydd Llun ac fe gafwyd cadarnhad fod y draenog wedi cael ei saethu.
Bu'n rhaid rhoi y draenog i gysgu o ganlyniad i'w anafiadau.
Yn ôl y milfeddyg a edrychodd arno, cafodd y draenog ei saethu tuag wythnos cyn iddo gael ei ganfod ac mae’n debygol bod yr ymosodiad yn un bwriadol.
“Fe fethodd y beled ei ben gan daro ei ysgwydd. Doedd dim anaf uniongyrchol i’w asgwrn ond fe gafodd ei ysgwydd ei ddadleoli,” meddai Ginny Batt.
“Roedd e’n hynod o drist oherwydd roedd e’n iachus heb law am ei anaf o’r peled. Roedd e’n dod o deulu o ddraenogod sy’n ymweld â’r ardd hwnnw’n aml.”
'Trist'
Mae RSPCA Cymru bellach yn cynnal ymchwiliad i’r digwyddiad ac maen nhw’n annog unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu ar unwaith gan ddyfynnu’r cyfeirnod 01244534.
Keith Hogben, sef arolygydd y RSPCA sy’n cynnal yr ymchwiliad, ag yntau wedi dweud ei fod yn “drist iawn” wrth feddwl am sut wnaeth y draenog ddioddef gyhyd.
Mae’r RSPCA yn galw am reolau llymach, yn ogystal ag addysg ynglŷn â phrynu drylliau awyr. Maen nhw’n hefyd yn dweud y dylai pawb derbyn “hyfforddiant diogelwch sylfaenol” cyn iddyn nhw allu prynu arf o’r fath.