Newyddion S4C

Carcharu dyn o Aberffraw am ymosod ar ei gyn-bartner

04/04/2024
Karl Wayne Williams

Mae dyn 37 oed o Aberffraw ar Ynys Môn wedi cael ei garcharu am ymosod ar ei gyn bartner.

Plediodd Karl Wayne Williams o Faes Llewelyn yn euog i dagu yn fwriadol ac ymosodiad a achosodd gwir niwed corfforol.

Cafodd ei garcharu am ddwy flynedd a pedair mis yn Llys y Goron yr Wyddgrug ddydd Mercher.

Ar 3 Chwefror, ymosododd Williams ar ei gyn bartner, gan afael yn ei gwddf a’i thagu nes na allai anadlu. 

Ceisiodd ei gyn bartner ddianc ond parhaodd Williams â'r ymosodiad, gan ei dyrnu i'w hwyneb a'i choesau.

Yna tagodd Williams hi eto a'i hatal rhag gadael, gan fygwth ei lladd tra roedd hi'n sgrechian am help.

Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Katy Hughes: “Roedd hwn yn ymosodiad ofnadwy a threisgar a barodd i’r dioddefwr ofni am ei bywyd. Dylid canmol ei dewrder trwy gydol yr ymchwiliad hwn.

“Ein blaenoriaeth yw mynd i’r afael â phob adroddiad o drais yn erbyn menywod a byddwn yn parhau i ddod â throseddwyr o flaen eu gwell.

“Byddwn yn annog unrhyw un sy’n profi cam-drin domestig neu drais i adrodd amdano i ni neu estyn allan i asiantaeth cymorth. Byddwn yn gwrando arnoch chi ac yn ymchwilio i unrhyw adroddiad yn llawn.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.