Gobaith am 50 o swyddi wrth agor marchnad newydd yng Nghaerffili
Bydd agor marchnad newydd yng Nghaerffili yn "gonglfaen" i gynllun adfywio'r dref, meddai dirprwy arweinydd y cyngor.
A gallai'r datblygiad, oddi ar ffordd Caerdydd, greu hyd at 50 o swyddi.
Dywedodd y Cynghorydd Jamie Pritchard fod y farchnad newydd, Ffos Caerffili, a fydd yn agor ddydd Gwener. yn rhan hanfodol o'r ymgyrch i adfywio'r dref.
Y cyngor sy'n berchen ar y farchnad newydd, a fydd yn cael ei rhedeg gan Brigadoon Ffos Ltd.
Dywedodd Hamish Munro, rheolwr rhaglen creu lleoedd Cyngor Caerffili bod nifer o fusnesau wedi dangos diddordeb.
Mae disgwyl i 25 o’r 28 uned yn y farchnad cael ei ddefnyddio gan fasnachwyr ar y diwrnod lansio, rhywbeth mae'r cyngor yn “hapus iawn yn ei gylch", meddai Mr Munro.
Bydd y rhan fwyaf o’r masnachwyr sy’n sefydlu yn Ffos Caerffili yn “annibynnol ac yn lleol", meddai, gan ychwanegu bod y cyngor yn gobeithio y byddai 45 i 50 o swyddi’n cael eu creu yn y farchnad.
Cyllid
Mae'r cyngor wedi sicrhau cyllid ychwanegol yn ogystal, a fydd yn lleihau gwariant yr awdurdod lleol ar y prosiect.
Mae cais llwyddiannus i Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO) yn golygu y bydd y prosiect yn derbyn grant o hyd at £2m, a allai ddod â chyfraniad y cyngor i’r farchnad i lawr o £1.25m i £150,000.
Bydd y grant hefyd yn talu rhywfaint o’r arian y mae Llywodraeth Cymru wedi’i wario ar y farchnad – ond mae’r cyllid yn dibynnu ar ei ailddyrannu i rannau eraill o brosiect adfywio ehangach Caerffili 2035.
Bydd dyfarniad terfynol WEFO ar gyfer y prosiect yn cael ei gyhoeddi ymhen tri neu bedwar mis, yn ôl adroddiad gan y cyngor.
Roedd y Cynghorydd Pritchard, sydd hefyd yn aelod cabinet dros adfywio, wedi wynebu beirniadaeth gan Blaid Cymru yn dilyn yr oedi diweddaraf i agoriad y farchnad.
Dywedodd wrth gyfarfod o gabinet y cyngor y byddai’r atyniad newydd yng Nghaerffili yn golygu bydd mwy o bobol “yn dod i’r dref ac yn mwynhau eu hunain”.
Llun: Stride Architectural Design