'Dim sail' i wrthwynebu cynllun dadleuol i godi 600 o dai yn Wrecsam
Gallai cynllun dadleuol i godi 600 o dai newydd yn Wrecsam - gafodd ei wrthod gan gynghorwyr - fynd yn ei flaen wedi'r cwbl.
Cafodd y datblygiad ar Stryt Holt gan gwmniau Barratt a Bloor Homes ei wrthod bron yn unfrydol gan y cyngor yn 2020, oherwydd pryder am yr effaith fyddai'n gael ar ffyrdd, ysgolion, a meddygfeydd lleol.
Ond mae'r cwmniau wedi apelio'n erbyn y penderfyniad, ac mae swyddogion y cyngor bellach yn dweud nad oes ganddyn nhw unrhyw sail i amddiffyn y penderfyniad i wrthod.
Mae nhw wedi gofyn i'r cynghorwyr ail ystyried eu penderfyniad gwreiddiol, cyn i arolygydd cynllunio ddechrau ystyried apêl y datblygwyr.
Un o'r rhesymau am y newid ydy'r penderfyniad dadleuol diweddar i dderbyn Cynllun Datblygu Lleol Wrecsam newydd. O'r herwydd, mae'r safle bellach wedi ei glustnodi fel lle i adeiladu tai.
Mewn adroddiad i gynghorwyr, dywedodd y prif swyddog cynllunio David Fitzsimon: "Mae amgylchiadau wedi newid yn sylweddol ers i'r cais cynllunio gael ei wrthod, fyddai'n cael effaith sylweddol ar allu'r cyngor i amddiffyn yr apêl."
'Dim gwrthwynebiad'
Ar y pryd, roedd y safle'n cael ei ystyried fel bod y tu allan i Wrecsam, ac mewn ardal oedd yn cael ei hystyried fel "ardal werdd." Ond o dan y cynllun newydd, mae o fewn y ffin ar gyfer adeiladu tai.
“O ganlyniad, does dim gwrthwynebiad polisi mewn egwyddor i'r datblygiad," meddai Mr Fitzsimon.
Ym mis Rhagfyr, cafodd cynghorwyr y sir rybudd y galle nhw fynd i garchar petae nhw'n gwrthod y Cynllun Datblygu newydd. Cerddodd nifer o gynghorwyr Plaid Cymru o'r cyfarfod mewn protest.
Ers i'r cynllun gael ei fabwysiadu, mae dau gynllun i godi bron i 550 o dai eisoes wedi cael caniatad.
Bydd cynghorwyr yn ystyried y cais i dynnu'r gwrthwynebiad yn ôl mewn cyfarfod ddydd Llun.