Newyddion S4C

Distyllfa yn bwydo gwartheg gyda gweddillion proses greu wisgi

03/04/2024
Aber Falls

Mae distyllfa yng Ngwynedd yn torri tir newydd drwy fwydo gwartheg o fferm gyfagos gyda gweddillion o’r broses creu wisgi. 

Mae Distyllfa Aber Falls yn Abergwyngregyn ger Bangor yn bwydo eu 400 o wartheg fferm gyfagos, gyda sbarion haidd neu farlys sy'n rhan o'r broses fragu. 

Wedi’i lleoli tua 500 llath o’r ddistyllfa, mae gwartheg y ffermwr Will Davies yn cael eu bwydo ar bedwar tunnell o haidd o’r ddistyllfa. 

Dywedodd Sam Foster, sef prif ddistyllwr Aber Falls: "Gyda'r fferm fel cymydog rydym yn hapus i gynnig yr haidd ail-law iddyn nhw ac maen nhw'n dod draw efo tractor a threlar a'i gasglu bob dydd yn rhad ac am ddim, ac yna mae'n cael ei gymysgu i wneud bwyd iach a maethlon i'r gwartheg.

"Mae pawb ar eu hennill. Rydym yn cael gwared ar gynnyrch gwastraff y byddai'n rhaid i ni dalu i’w waredu fel arall ac mae'r ffermwr yn cael bwyd am ddim i'w wartheg."

Mae’r ffermwr Will Davies hefyd yn falch iawn o’r trefniant gan ddweud, “mae'n gweithio i'r ddistyllfa ac mae'n gweithio i mi."

“Rydyn ni'n defnyddio'r haidd fel rhan o'r cymysgedd ar gyfer y gwartheg godro ac mae'n ffurfio 40 y cant o'u bwyd anifeiliaid ac maen nhw'n gwneud yn dda iawn arno.

"Mae'n help mawr i gael yr haidd yn rhad ac am ddim gan fusnes sydd ond dafliad carreg i ffwrdd, felly mae'n hawdd mynd i nôl rhywfaint bob dydd,” meddai. 

Mae'r ddistyllfa yn defnyddio tua 200,000 litr o ddŵr o dwll naturiol yr wythnos er mwyn creu’r wisgi: "Roedd twll turio yma eisoes ar yr eiddo felly roedd yn gwneud synnwyr i ni ddefnyddio'r adnodd naturiol hwnnw, a phwmpio’r dŵr i fyny o 40 metr i lawr yn y ddaear, a gan ein bod yng ngogledd Cymru, ni fydd fyth yn rhedeg yn sych,” meddai Mr Foster. 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.