Dyn wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ar yr A40
02/04/2024
Mae cerddwr wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ar yr A40 yng ngorllewin Sir Gaerfyrddin ddydd Llun.
Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad rhwng car a cherddwr am tua 4.45 ac fe fuodd y dyn farw yn y fan a'r lle.
Fe gafodd rhan o ffordd ddeuol yr A40 ei chau rhwng Sanclêr a Chaerfyrddin am wyth awr yn dilyn y gwrthdrawiad.
Roedd tagfeydd am filltiroedd ar brif ffyrdd yn ardaloedd Sanclêr a Chaerfyrddin brynhawn Llun yn ogystal â ffyrdd bychain cyfagos.
Mae'r heddlu yn dweud eu bod yn ymchwilio, a bod swyddogion arbenigol yn rhoi cymorth i deulu'r dyn.