Newyddion S4C

TikTok yn lansio ffrwd wyddonol newydd

02/04/2024
TikTok

Mae cyfrwng cymdeithasol TikTok wedi lansio ffrwd benodol ar gyfer cynnwys  ym maes gwyddoniaeth a thechnoleg, a hynny er mwyn “ysbrydoli” pobl ifanc. 

Fe fydd y ffrwd yn ymddangos yn ymyl un o brif dudalennau’r ap, sef y dudalen sydd wedi’i theilwra i’r unigolyn (For You page). Bydd pobl ar hyd a lled y DU ac Iwerddon yn medru ei defnyddio.  

Nod y ffrwd, sy’n hyrwyddo cynnwys ym meysydd gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg (‘STEM’) yw annog mwy o bobl ifanc i gymryd diddordeb yn y maes. 

Y gobaith yw y byddan nhw’n ystyried gyrfa yn y diwydiannau hynny. 

Yn ôl TikTok, mae tua 15 miliwn o fideos yn ymwneud â materion gwyddonol wedi cael eu cyhoeddi ar yr ap yn ystod y tair blynedd ddiwethaf – gyda rhai unigolion yn denu nifer o ddilynwyr o achos hynny. 

Un sydd wedi bod yn llwyddiannus gyda’i chynnwys gwyddonol yw Dr Clara Nellist, 36 oed o Coventry. Mae'n ffisegydd gronynnau yn Cern – sef Sefydliad Ewropeaidd ar gyfer Ymchwil Niwclear yng Ngenefa, yn y Swistir. 

Gydag tua 206,000 o ddilynwyr ar TikTok, mae Dr Nellist, neu ‘Particle Clara,’ yn gobeithio y bydd y ffrwd newydd yn galluogi mwy o hwyl i bobl ifanc wrth iddyn nhw barhau i ddysgu. 

“Mae’r ffrwd STEM yn gyffrous iawn, ac mae’r ffaith ein bod ni’n gallu cyrraedd pobl gyda'r wyddoniaeth rydyn ni'n ei wneud yn Cern yn wych. 

“Yn bersonol, dwi eisiau ein bod ni’n gallu cyrraedd pobl sydd heb gael mynediad at gynnwys o’r fath yn y gorffennol.” 

Mae hefyd yn gobeithio y bydd y ffrwd yn “croesawu” mwy o bobl i wyddoniaeth, gan sicrhau mwy o fynediad i bobl ifanc i'r maes. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.