Newyddion S4C

Deddfwriaeth newydd i atal casineb yn dod i rym yn yr Alban

01/04/2024
Holyrood

Mae deddfwriaeth newydd sy’n ceisio mynd i’r afael â chasineb tuag at “nodweddion penodol” sydd gan bobl wedi dod i rym yn yr Alban ddydd Llun. 

Nod y Ddeddf Troseddau Casineb a Threfn Gyhoeddus yw mynd i’r afael â chasineb ar sail oedran, anabledd, crefydd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth drawsryweddol neu fod yn rhyngrywiol (intersex).

Fe allai unigolion fod yn destun “ymchwiliadau’r heddlu” pe bai nhw’n siarad neu ymddwyn mewn modd "y byddai person rhesymol yn ei ystyried yn fygythiol neu'n sarhaus," a hynny gyda'r bwriad o ysgogi casineb.

Mae’r ddeddf hefyd yn amddiffyn pobl rhag casineb ar-lein, yn ôl  Siobhian Brown sef Gweinidog yr Alban dros ddioddefwyr a diogelwch cymunedol a oedd yn siarad ar raglen BBC Radio 4 fore Llun. 

“Mater i’r heddlu fyddai asesu beth sy’n digwydd pe bai rhywun ysgogi casineb ar-lein,” meddai. 

Ond mae’r ddeddfwriaeth hefyd wedi’i beirniadu gan nad yw’n cynnwys rhywedd fel un o’r ‘nodweddion gwarchodedig’. 

Ond dywedodd Ms Brown y byddai Llywodraeth yr Alban yn “mynd ymhellach” i amddiffyn menywod gyda deddfwriaeth a fydd yn cael ei thrafod yn y Senedd hefyd. 

Mae’r awdur JK Rowling, y cyflwynydd podlediadau Joe Rogan a’r dyn busnes Elon Musk ymysg yr enwogion sydd wedi beirniadu’r ddeddfwriaeth newydd. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.