Ymchwilio i ymosodiad seiber ar ysgolion uwchradd Sir Fôn
Mae un o gynghorau sir y gogledd yn ymchwilio i ymosodiad seiber ar ei hysgolion uwchradd, gydag "aflonyddwch" yn debygol o barhau am rai wythnosau.
Dywedodd Cyngor Sir Ynys Môn fod systemau technoleg gwybodaeth, gan gynnwys cyfrifon e-bost, wedi eu hatal dros dro er mwyn rheoli'r digwyddiad.
Dywed y cyngor fod hi'n bosib fod data personol sy'n cael ei gadw ar y systemau hyn wedi eu peryglu o ganlyniad i'r ymosodiad sydd wedi effeithio ar bob un o bum ysgol uwchradd y sir.
Mae Ysgol Syr Thomas Jones yn Amlwch, Ysgol Uwchradd Bodedern, Ysgol Gyfun Llangefni, Ysgol David Hughes ym Mhorthaethwy, ac Ysgol Uwchradd Caergybi i gyd wedi eu heffeithio.
Dywedodd Annwen Morgan, Prif Weithredwr Cyngor Sir Ynys Môn: “Fe wnaethom ddarganfod yr ymosodiad seiber ddoe (Dydd Mercher, Mehefin 23) ac yna symud yn gyflym i ddod â thîm o ymgynghorwyr technoleg seiber arbenigol i mewn er mwyn ymchwilio i’r mater.
"Bydd y Ganolfan Diogelwch Seiber Genedlaethol hefyd yn ein cefnogi er mwyn gallu datrys y mater.
“Mae’n debyg y bydd ychydig o aflonyddwch i’r ysgolion dros yr wythnosau nesaf gan efallai y bydd angen i rai systemau gael eu hadfer ac y bydd eraill yn parhau i fod oddi ar lein am gyfnod".
Ychwanegodd Ms Morgan: “Rydym yn cydweithio’n agos â phartneriaid eraill er mwyn cefnogi ein hysgolion uwchradd. Er na allwn gadarnhau ar hyn o bryd a oes mynediad diawdurdod at ddata wedi digwydd, mae Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth wedi eu hysbysu am y digwyddiad".
Dywedodd Cyngor Sir Ynys Môn na fyddan nhw'n gwneud unrhyw sylwadau pellach ar hyn o bryd.
Llun: Eric Jones (drwy geograph)