Newyddion S4C

Mam i ferch ag anhenion ychwanegol yn dweud bod gadael ei phlentyn allan o lun dosbarth yn 'greulon'

31/03/2024
ffrae llun ysgol

Mae mam i ferch sydd ag anghenion ychwanegol gafodd ei gadael allan o lun dosbarth wedi beirniadu'r cam fel un “difeddwl a chreulon” ar ôl clywed bod yr un peth wedi digwydd mewn ysgol arall.

Dywedodd Haley Woodward, 38, o Walkington, Dwyrain Sir Efrog, fod ei theimladau o ddicter a siom wedi dychwelyd ar ôl iddi ddod i’r amlwg bod rhieni mewn ysgol yn Sir Aberdeen wedi cael cynnig y dewis i brynu lluniau dosbarth gyda neu heb blant ag anghenion cymhleth ynddynt.

Derbyniodd rhieni plant Ysgol Gynradd Aboyne ddolen gan gwmni ffotograffiaeth Tempest Photography a oedd yn cynnig lluniau gwahanol nad oedd yn cynnwys y plant ag anghenion cymleth ynddynt.

Dywedodd Ms Woodward fod digwyddiad tebyg wedi digwydd yng ngwanwyn 2023 yn Ysgol Gynradd Weeth yn Camborne, Cernyw, lle'r oedd ei merch 10 oed Claire yn ddisgybl.

Dywedodd ei bod wedi derbyn dolen i ddau lun dosbarth gwahanol – un gyda Claire ynddo, ac un hebddo.

“Cawsom ein synnu a chawsom sioc fawr,” meddai.

“Hoffwn pe bawn wedi ei wthio ychydig yn fwy ar y pryd, ond pan mae gennych chi blentyn ag anghenion ychwanegol mae popeth yn frwydr ac mae popeth yn her.

“Roedd yn frwydr arall nad oedd ynom ni.”

'Dicter'

Dywedodd Ms Woodward, sydd wedi symud i Sir Efrog ers y digwyddiad, ei bod wedi “symud ymlaen” o’r mater i ddechrau, ond dywedodd fod y digwyddiad diweddaraf wedi dod â theimladau o ddicter yn ôl.

“Mae'n dod ag ef yn ôl i fyny ac rydych chi'n cael eich hun yn grac eto. Mae’n dod â siom yn ôl yn fwy na dim,” meddai.

Dywedodd Ms Woodward ei bod yn cydymdeimlo â rhieni Ysgol Gynradd Aboyne, gan ychwanegu: “Pan mae popeth yn frwydr a'ch bod chi'n ymladd dros bopeth (eich plant), dim ond peth arall ydyw ac ni ddylai fod wedi digwydd.

“Mae'n teimlo'n wirioneddol ddifeddwl a chreulon.”

Ymddiheuriad

Dywedodd llefarydd ar ran Tempest Photography: “Roedd dau lun gwahanol yn yr achos hwn oherwydd daethpwyd â’r ferch dan sylw i’r safle ddau funud ar ôl i’r llun cyntaf gael ei dynnu.

“Nid yw ein ffotograffydd yn gwybod pam mai dyma oedd yr achos.

“Wnaeth hi ddim penderfynu pwy ddylai fod yn y llun, a doedd hi ddim yn awgrymu y dylai unrhyw un gael ei gynnwys na’i wahardd.

“Ei rôl oedd tynnu’r lluniau yn ôl y gofyn ac yna eu rhannu gyda’r ysgol.”

Ychwanegodd y llefarydd: “Mae’n wir ddrwg gennym glywed bod mam y ferch mewn trallod am yr hyn ddigwyddodd, ond mae’r achos hwn yn sylweddol wahanol i’r sefyllfa yn Ysgol Gynradd Aboyne yr ydym wedi ymddiheuro amdani.”

Mae Ysgol Gynradd Weeth a Chyngor Cernyw wedi cael cais am ymateb.

Llun: PA

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.