Arbrawf i arbed arian a'r amgylchedd yn theatrau Ysbyty Gwynedd
Mae staff theatrau llawdriniaethau Ysbyty Gwynedd wedi bod yn cymryd rhan mewn arbrawf i brofi pa mor ddiogel ac effeithiol yw gwisgoedd y mae modd eu defnyddio fwy nag unwaith.
Yn ystod pandemig Covid-19, yn dilyn pryderon am nifer y gwastraff clinigol oedd yn dod o ddefnyddio gynau ('gowns') oedd yn cael eu defnyddio unwaith yn unig, penderfynodd byrddau ac ymddiriedolaethau iechyd ledled y DU i ystyried ffyrdd gwahanol o leihau eu hôl troed carbon.
Yn dilyn arbrawf llwyddiannus gan yr adran Endosgopi a'r Uned Gofal Dwys yn ystod y pandemig, cychwynnodd staff y Theatrau ddefnyddio'r gynau yr oedd modd eu hail-ddefnyddio.
Dywedodd Wendy Scrase, Swyddog Trawsnewid Cynaliadwyedd Ysbyty Gwynedd. “I geisio lleihau cyfanswm sylweddol ein hallyriadau carbon a'n gwastraff, fe wnaeth sawl aelod o dîm ein theatrau gyfranogi mewn arbrawf i brofi Gynau Llawfeddygol Amldro gan gwmni Elis ym mis Ionawr.
“Fe wnaeth nyrs theatr ymgynghorol y cwmni gynorthwyo'r staff yn ystod yr arbrawf gan gynnig hyfforddiant ynghylch gwisgo, dadwisgo a gwaredu.
“Cawsom adborth gwych gan y sawl a gyfranogodd yn yr arbrawf, a dywedodd nifer o'r staff fod y gynau yn gyfforddus iawn ac y byddent wrth eu bodd yn gallu eu gwisgo trwy'r adeg yn y theatrau."
Ôl-troed carbon
Mae’r Gwasanaeth Iechyd yn gyfrifol am 4% o gyfanswm ôl troed carbon y DU, ac mae cyfanswm yr ynni a ddefnyddir gan theatrau llawfeddygol yn hynod o uchel.
Daeth y tîm i'r casgliad y gallai cychwyn defnyddio gynau amldro arbed £22,768 y flwyddyn, yn cynnwys arbedion o ran costau gwaredu gwastraff clinigol.
Byddai modd arbed 11,500kg o CO2, sy'n gyfystyr â 56,991kWh o drydan neu gyflenwad trydan 11 o dai sengl am 15 mis.
Dywedodd yr Anaesthetegydd Ymgynghorol Dr Carsten Eickmann: “Mae gofal llawfeddygol yn faes sy'n defnyddio cyfanswm sylweddol iawn o adnoddau, ac amcangyfrifir fod ôl troed carbon gofal llawfeddygol yn y DU yn 2019 yn 5.7 miliwn tunnell fetrig o CO2.
“Mae nwyon anaesthetig, ynni a'r defnydd o eitemau untro yn enwedig yn feysydd problemus o ran cynhyrchu carbon mewn theatrau llawfeddygol.
“I sicrhau llawdriniaethau cynaliadwy, mae angen darparu gofal llawfeddygol rhagorol sy'n cynnig llawer o werth am arian mewn modd sy'n gynaliadwy o safbwynt amgylcheddol, cymdeithasol ac ariannol. Llwyddodd yr arbrawf hwn i ddangos i ni beth yw'r buddion yn sgil gwneud hynny.”
Llun: Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr