Newyddion S4C

Chwe Gwlad: Cymru'n colli'n drwm yn erbyn Lloegr ym Mryste

30/03/2024
Lloegr v Cymru

Colli'n drwm oedd hanes Cymru yn ail gêm Chwe Gwlad y Menywod yn erbyn Lloegr ddydd Sadwrn, a hynny o 46 - 10.

Ar ôl colli 18-20 yn y gêm agoriadol yn erbyn Yr Alban, roedd prif hyfforddwr Cymru, Ioan Cunningham wedi gwneud saith newid i’r tîm oedd yn cychwyn yn erbyn enillwyr y Gamp Lawn y llynedd.

Y canolwr Hannah Jones oedd yn arwain y tîm unwaith eto, yn Ashton Gate.

Roedd Lloegr wedi sgorio pedwar cais a hawlio pwynt bonws yn yr hanner cyntaf, er i Gymru hawlio pwyntiau cyntaf y prynhawn gyda chic gosb.

Maud Muir lwyddodd i hawlio cais cyntaf y prynhawn i'r Saeson wedi cwta ddeng munud o chwarae - cyn i Zoe Alcroft sgorio'r ail gais yn fuan wedyn.

Aeth pethau o ddrwg i waeth i Gymru ar ol 25 munud o chwarae - cais i Hannah Botterman y tro hwn ar ôl hyrddio dros y llinell.

Eiliadau cyn diwedd yr hanner cyntaf, Lark Atkin-Davies sgoriodd gais nesaf Lloegr - 24-3 oedd y sgôr ar yr hanner.

Daeth cais nesaf Lloegr gan Ellie Kildunne ar ddechrau'r ail hanner ac roedd Cymru ar chwâl. Yna fe ddaeth cais arall i'r tîm cartref - Abby Dow yn sgorio y tro hwn.

Daeth rhywfaint o gysur prin i'r crysau cochion gyda chais gan Keira Bevan a Lleucu George yn ychwanegu'r triphwynt, ond roedd y canlyniad yn anochel.

Cynyddu oedd y pwysau ar Gymru, ac fe ddaeth cais nesaf Lloegr gan Rosie Galligan. 41-10 i'r Saeson.

Ellie Kildunne oedd y nesaf i hawlio cais i Loegr, cyn i'r chwiban olaf chwythu a dod â phrynhawn poenus i ben i fenywod Cymru.

Y sgôr terfynol: Lloegr 46-10 Cymru.

Llun: Asiantaeth Luniau Huw Evans

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.