Rhyddhau gwystlon o far yn nwyrain yr Iseldiroedd
30/03/2024
Mae nifer o bobl oedd yn cael eu dal yn wystlon mewn bar poblogaidd yn nhref Ede, yn nwyrain yr Iseldiroedd wedi eu rhyddhau.
Yn ôl adroddiadau, fe aeth dyn i mewn i'r adeilad yn gynnar fore Sadwrn gan fygwth lladd ei hun gyda ffrwydrad.
Cafodd tri gwystl eu rhyddhau yn gynharach fore Sadwrn, medd yr heddlu, cyn i'r gwystl olaf gael ei ryddhau ychydig wedyn.
Mae un dyn wedi ei arestio.
Roedd tua 150 o bobl sy'n byw gerllaw wedi gorfod gadael eu cartrefi am gyfnod ac fe gafodd canol y dref ei chau.
Yn ôl yr heddlu, does dim arwyddion fod hwn yn ymosodiad terfysgol.