Newyddion S4C

Gwersyll milwrol yn y de i gynnig llety i bobl sydd wedi dianc o Affghanistan

30/03/2024
ARAP MOD

Fe fydd gwersyll milwrol yng Nghymru yn cael ei ddefnyddio i gynnig llety i bobl sydd wedi dianc rhag y Taliban yn Affghanistan ac wedi peryglu eu bywydau i gefnogi'r DU. 

Fe fydd y Gwersyll Dwyreiniol, stad o dai gan y Weinyddiaeth Amddiffyn, yn Sain Tathan ym Mro Morgannwg yn gartref i 50 o bobl erbyn diwedd y mis, gyda rhagor yn ymuno erbyn canol Ebrill. 

Fe fydd y safle, a fydd yn gallu croesawu uchafswm o 180 o bobl, yn cael ei ddefnyddio gan deuluoedd sy'n gymwys o dan Bolisi Adleoli a Chymorth Affghanistan (ARAP).

Mae ARAP yn cefnogi pobl a'u teuluoedd a weithiodd ar gyfer neu gyda Llywodraeth y DU a'r lluoedd arfog Prydeinig yn Affghanistan.

Dywedodd llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Amddiffyn: "Mae ein dyled ni yn fawr i'r bobl ddewr o Affghanistan a wnaeth beryglu eu bywyd ynghyd â'n lluoedd ni i gefnogi ein hymgyrch.

"Fe fydd y bobl sy'n gymwys yn aros yno dros dro am gyfnod o tua chwe wythnos cyn symud i lety mwy sefydlog."

Fe fydd pobl o Affghanistan sy'n gymwys i gael eu hadleoli i'r DU o dan bolisi ARAP yn gallu dod gyda phartner, plant a theulu ychwanegol os ydyn nhw yn gymwys hefyd.

Mae gan y rhai sy’n cyrraedd y DU o dan gynllun ARAP ganiatâd amhenodol i aros yn y DU.

Dywedodd y Weinyddiaeth Amddiffyn ei bod yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru a Chyngor Bro Morgannwg i sicrhau fod y prosiect yn cael ei rheoli "gan ystyried pawb ynghlwm", yn enwedig y rhai sy'n byw yn lleol.  

Llun: Y Weinyddiaeth Amddiffyn

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.