Newyddion S4C

Cyhuddo arweinydd plaid y DUP Syr Jeffrey Donaldson o droseddau rhyw

29/03/2024
Sir Jeffrey Donaldson

Mae Syr Jeffrey Donaldson wedi cael ei gyhuddo o droseddau rhyw hanesyddol ac wedi rhoi'r gorau i fod yn arweinydd plaid unoliaethol y DUP.

Mae dynes 57 oed hefyd wedi cael ei chyhuddo o gynorthwyo gyda'r cyhuddiadau honedig.

Fe gafodd y ddau eu harestio fore Iau gan yr heddlu a'u cwestiynu cyn cael eu cyhuddo yn ddiweddarach yn y diwrnod.

Mae disgwyl i'r ddau ymddangos yn y llys fis nesaf.

Dywedodd datganiad gan y DUP: "Mae Cadeirydd y Blaid wedi derbyn llythyr gan Syr Jeffrey Donaldson yn cadarnhau ei fod wedi cael ei gyhuddo gyda'r honiadau a dywedodd ei fod yn camu lawr fel arweinydd y blaid ar unwaith."

Mae Mr Gavin Robinson wedi cael ei benodi yn arweinydd dros dro y blaid.

Mewn datganiad fore Gwener, dywedodd yr heddlu fod dyn 61 oed wedi cael ei gyhuddo gyda "throseddau rhyw nad oedd yn ddiweddar" gan ychwanegu fod dynes 57 oed hefyd wedi ei harestio ar yr un pryd mewn cysylltiad â'r cyhuddiadau.

Cadarnhaodd y datganiad y byddai'r ddau yn ymddangos yn Llys Ynadon Newry ar 24 Ebrill.

Fe gafodd Syr Jeffrey Donaldson ei ethol fel arweinydd y DUP yn 2021.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.