Newyddion S4C

Dŵr Cymru: Carthion yn cael eu gollwng i ddyfroedd Cymru am dros 900,000 o oriau

Afon Gwy

Cafodd carthion eu rhyddhau i ddyfroedd Cymru am dros 900,000 o oriau'r llynedd, yn ôl y ffigyrau diweddaraf gan Dŵr Cymru.

Roedd 105,943 achos o ollwng dŵr gwastraff i afonydd, llynnoedd a’r môr yng Nghymru yn ystod 2023, gyda 93% o achosion yn cael eu cydnabod fel rhai "sylweddol".

Roedd hyn yn golygu cynnydd o 68% o gymharu â 2022.

Mae Dŵr Cymru, sydd yn gyfrifol am reoli dŵr gwastraff, wedi dweud bod yn gynnydd yn “uniongyrchol gysylltiedig” â ‘r glaw trwm.

Dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), sydd yn gorychwilio Dŵr Cymru, eu bod yn "parhau i wthio" am wellhad mewn perfformiad a lleihad mewn achosion.

Daw hyn wedi i gyrff dŵr Lloegr ddatgan bod nifer yr achosion o ollwng dŵr gwastraff wedi dyblu dros y flwyddyn ddiwethaf.

Er bod y corff sy’n gyfrifol am oruchwylio’r cyrff dŵr, Water UK, yn cydnabod mai’r tywydd oedd y rheswm am y gollwng, dywedwyd fod y ffigyrau yn "annerbyniol."

Dywedodd llefarydd ar ran Dŵr Cymru, bod y tywydd gwael wedi chwarae rhan yn y nifer y carthion a gafodd eu rhyddhau.

"Rydym yn cymryd ein cyfrifoldeb dros ddiogelu'r amgylchedd o ddifrif ac yn deall y pryderon gwirioneddol sydd yna ynglŷn â gorlifoedd storm. 

"Er bod nifer fawr o ffactorau yn effeithio ar ansawdd dŵr, y mae gorlifoedd storm yn chwarae rhan fach ohono, rydym yn deall y pryderon hyn ac yn rhoi sicrwydd i’n cwsmeriaid ein bod yn gwrando arnynt."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.