TikTok yn cyhoeddi gwasanaeth newydd i gynnig 'gwybodaeth gywir' ynglŷn ag etholiadau
Mae cyfrwng cymdeithasol TikTok wedi cyhoeddi cynlluniau ar gyfer ‘canolfannau ar-lein’ ble y gall bobl cael gwybodaeth “dibynadwy” ynglŷn ag etholiadau.
Dywedodd TikTok y byddai’n lansio ‘Canolfan Etholiadau Lleol’ yn y DU ddechrau Ebrill, cyn i etholiadau lleol gael eu cynnal ar hyd a lled y wlad.
Fe ddaw’r ymdrechion fel rhan o bartneriaeth ar y cyd gyda’r cwmni Logical Facts, a hynny’n dilyn pryderon ynglŷn ag effaith y cyfryngau cymdeithasol ar allu pobl i ddod o hyd i wybodaeth gywir.
Mi fydd y ganolfan yn cynnig gwybodaeth “sydd wedi’i wirio,” gan gynnwys pryd a sut y gall pobl pleidleisio.
Maen nhw hefyd yn bwriadu cynnig gwasanaeth o’r fath mewn gwledydd eraill ledled y byd, gan deilwra’r cynnwys i’r etholiadau sy’n cael eu cynnal yn y gwledydd hynny.
Mae datblygiadau ym maes ‘deallusrwydd artiffisial’ – neu AI – wedi creu mwy o heriau wrth i bobl geisio dod o hyd i wybodaeth gywir, meddai’r cwmni.
“Mae cynnwys sydd wedi’i greu gan ddefnyddio AI yn dod â heriau newydd i’r diwydiant ac rydyn ni wedi ceisio mynd i’r afael â hyn gyda rheolau llym a thechnoleg newydd.
“Dydyn ni ddim yn caniatáu cynnwys sydd wedi'i olygu mewn ffordd a allai fod yn gamarweiniol, gan gynnwys fideos sydd wedi’u creu gan ddefnyddio AI - sy’n wneud iddo ymddangos bod ffigyrau cyhoeddus yn cefnogi safbwynt gwleidyddol penodol.”