Newyddion S4C

2023 'yn flwyddyn heriol' i dwristiaeth yng Nghymru

27/03/2024
Traeth.jpeg

Roedd 2023 yn flwyddyn heriol i'r diwydiant twristiaeth yng Nghymru, yn ôl arolwg diweddaraf y llywodraeth.

Y sector hunan-ddarpar wnaeth ddiodde fwyaf, gyda 42 y cant o fusnesau yn gweld llai o ymwelwyr na'r flwyddyn cynt, o'i gymharu â  19 y cant yn gweld cynnydd.

Ond mae baromedr twristiaeth diweddaraf Llywodraeth Cymru'n dangos fod atyniadau ymwelwyr wedi perfformio'n gymharol dda, gyda 42 y cant wedi gweld cynnydd yn nifer yr ymwelwyr, a 34 y cant  yn dweud bod lefelau wedi aros yn weddol debyg.

Prif bryder y busnesau a holwyd oedd costau uchel. Ond roedd  "polisiau Llywodraeth Cymru" hefyd yn bryder gan nifer o fusnesau hunan-ddarpar.

Yn ogystal, roedd 32 y cant o fusnesau yn dweud nad oedden nhw'n gweld unrhyw beth i fod yn gadarnhaol amdano wrth edrych i'r dyfodol.

Dim ond 14% oedd yn "hyderus iawn" y byddai modd rhedeg eu busnes yn broffidiol eleni, gyda 50% yn "weddol hyderus".

Bwriad y "baromedr twristiaeth" yw cynnig cipolwg rheolaidd ar sefyllfa'r diwydiant wrth gael ymateb busnesau i wahanol gwestiynau.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.