Y BBC i gynnal eu hymgynghoriad mwyaf erioed er mwyn trafod dyfodol y gorfforaeth
Datgelodd pennaeth y BBC y bydd y gorfforaeth yn cynnal yr ymgynghoriad mwyaf erioed y flwyddyn nesaf er mwyn i'r cyhoedd "lywio'r drafodaeth ar ddyfodol" y sefydliad.
Ychwanegodd Tim Davie ei fod yn fodlon ystyried ffî drwydded mwy 'blaengar.'
Mae'r ffî drwydded wedi rhewi ers dwy flynedd ac yn costio £159 y flwyddyn. Bydd yn cynyddu £10.50 ar 1 Ebrill i £169.50.
Tra'n siarad yn nigwyddiad y Royal Television Society (RTS) yn Llundain, dywedodd Mr Davie fod y gorfforaeth yn bwriadu cynnal "ymchwil blaengar" er mwyn ystyried ffyrdd o ddiwygio'r ffi drwydded ar ôl 2028, pan ddaw cytundeb y siarter bresennol i ben yn Rhagfyr 2027.
Ychwanegodd nad yw'r gorfforaeth yn "amddiffynnol wrth ystyried y dyfodol" a'i fod o'r farn y bydd angen diwygio'r BBC.
Wrth gyfeirio at yr ymgynghoriad eang, dywedodd: "Ein nod yw cysylltu â channoedd ar filoedd o bobl, ac rydym yn gwneud hynny gyda meddwl agored."
Ychwanegodd Mr Davie fod y rhai dros 74 oed sy'n derbyn credyd pensiwn yn medru ymgeisio am drwydded am ddim, a'i fod yn agored ei feddwl a ddylai eraill dderbyn gostyngiadau.