Newyddion S4C

‘Diolchgar’ am ben-glin prosthetig sy’n caniatáu i mi hyfforddi tîm pêl-droed fy mab eto

ITV Cymru 26/03/2024
Martin Padfield

Mae dau dad a wnaeth golli eu coesau mewn gwrthdrawiad wedi dweud bod derbyn pen-glin prosthetig drwy uwch-dechnoleg wedi “newid eu bywydau”. 

Dim ond ers dwy flynedd y mae hi’n bosib cael pen-gliniau prosthetig dan reolaeth Microbrosesydd, neu MPKs yng Nghymru. 

Mae’r pen-glin yn defnyddio technoleg cyfrifiadurol i fonitro patrwm cerdded y defnyddwyr yn dibynnu ar ei bwysau a chyflymder. Mae’r dechnoleg yn ei gwneud yn haws i gerdded ar lethrau, grisiau, ac arwynebau anwastad. 

Mae 80 o bobl ar draws Cymru wedi derbyn pen-gliniau prosthetig o’r fath ers i Lywodraeth Cymru fuddsoddi £700,000 yn y gronfa. 

Yn wreiddiol, mi oedd MPKs ddim ond ar gael i gyn-filwyr o Gymru oedd wedi colli rhannau o'r corff wrth wasanaethu yn y lluoedd arfog. 

Image
Martin Padfield

Collodd Martin Padfield, sy'n dad i ddau o blant, ei goes chwith mewn damwain beic modur 24 mlynedd yn ôl ac mae wedi ymgyrchu dros gyflwyno MPKs yng Nghymru.

Yn ôl Mr Padfield, 49 oed o Lyn Ebwy, roedd hyd yn oed wedi ystyried ail-forgeisio ei dŷ er mwyn prynu pen-glin MPK. 

Ers ei ddamwain yn y flwyddyn 2000, mae Mr Padfield wedi gwisgo tua 20 o ben-gliniau prosthetig.

“O’r blaen roedd yn rhaid i fi feddwl os oeddwn i’n cerdded ar rew neu i lawr llethrau, ac roedd rhaid i mi ganolbwyntio ar yr hyn yr oeddwn yn ei wneud.

"Nawr gyda'r goes yma, mae hi bron fel nad oes gen i goes ffug bellach. Mae bywyd gymaint haws."

Cyn ei ddamwain roedd Mr Padfield yn bêl-droediwr brwd, a pheidio â gallu chwarae oedd y rhan anoddaf pan gollodd ei goes.

“Doeddwn i ddim yn gallu meddwl am beidio chwarae pêl-droed eto ac roedd yn anodd iawn, iawn i mi,” esboniodd.

"Roeddwn i'n arfer mwynhau chwarae gymaint cyn i mi golli fy nghoes."

Mwynhau hyfforddi pêl-droed

Mae bellach yn mwynhau hyfforddi tîm pêl-droed ei fab, ac mae ei ben-glin brosthetig newydd wedi ei alluogi i gymryd mwy o ran.

“Roedd hyfforddi’n arfer cynnwys fi’n sefyll ar y llinell ochr, dim ond yn galw cyfarwyddiadau, ond nawr ers yr MPK rydw i wedi gallu cymryd rhan llawer mwy.

"Rwy'n gallu bod ar y cae gyda'r plant yn ystod sesiwn hyfforddi, gan ddangos driliau gwahanol iddyn nhw, a bod yn hyfforddwr arferol.”

Mae Richard Jones o Ddinbych hefyd yn ddiolchgar o’i ben-glin newydd.  

Collodd Mr Jones, 34 oed ei goes mewn damwain car ym mis Chwefror 2020. 

Fe dreuliodd 10 diwrnod mewn coma ac yn gaeth i'w wely am tua 18 mis wrth iddo wella o’i anafiadau.

"Gyda'r goes brosthetig oedd gennai gynt doeddwn byth yn codi fy mab, o’n i’n treulio mwy o amser ar y llawr.

“Gyda’r MPK, mae gymaint yn haws mae’r ben-glin yn fy nghefnogi.

“Mae wedi newid fy mywyd yn aruthrol, ac mae wedi golygu fy mod yn gallu gwneud y pethau o’n i’n mwynhau gwneud cyn y ddamwain: chwaraeon, saethu, pysgota, cerdded ychydig filltiroedd. O’r blaen o’n i’n cael trafferth cerdded 100 llath.

"Rydw i’n gallu gwneud y cyfan."

Nid yw pawb yn gymwys i gael MPK, ac mae angen lefel penodol o gryfder a chydbwysedd er mwyn bod yn gymwys, ac mae’r batri'r prosthetig angen ei wefru'n rheolaidd.

Dywedodd Nicola Cochrane, ffisiotherapydd microbrosesydd yn y ganolfan aelodau artiffisial a chyfarpar yn Ysbyty Treforys, fod y galw wedi bod yn uchel ers i'r dechnoleg newydd ddod ar gael yng Nghymru.

Mae cyllid MPK GIG Cymru yn cael ei rannu ar draws canolfannau yn Abertawe, Caerdydd a Wrecsam.

Lluniau: ITV Cymru

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.