Teulu 'wedi torri eu calonnau' wedi marwolaeth dyn o Sir Gâr
Mae teulu dyn fuodd farw mewn gwrthdrawiad ar yr M4 wedi dweud y byddan nhw yn "gweld ei golli yn fawr".
Fe fuodd Stephen Abbott, 56 oed o ardal Gorslas yn Sir Gâr farw yn dilyn gwrthdrawiad rhwng ei gar a lori ar yr M4 rhwng Yr Hendy a Phont Abraham nos Lun 18 Mawrth.
Mewn datganiad mae'r teulu wedi dweud ei fod yn "gymeriad mawr oedd yn adnabyddus yn lleol a trwy ei waith gyda'r grŵp Bar 44".
"Cafodd ei fagu ym Mhorthcawl ac yna bu'n byw ym Mhen-y-bont cyn symud i Sir Gâr.
"Fe fydd ei deulu i gyd yn gweld ei golli yn fawr a'i ffrindiau a chydweithwyr. Mae ei farwolaeth annisgwyl wedi torri ein calonnau ac rydyn ni yn gofyn i unrhyw un allith helpu'r heddlu gyda'u hymholiadau i wneud hynny."
Mae'r heddlu yn dweud eu bod yn parhau i wneud ymholiadau ac yn apelio am wybodaeth.