Tywysoges Cymru yn derbyn triniaeth am ganser
Tywysoges Cymru yn derbyn triniaeth am ganser
Ers wythnosau, mae 'na ddyfalu cyhoeddus am iechyd y Dywysoges Catherine.
Heno, fe gadarnhaodd ei bod yn derbyn triniaeth am ganser.
"It has been an incredibly tough couple of months for our family.
"I've had a fantastic medical team who have taken great care of me for which I'm so grateful.
"In January, I underwent major abdominal surgery in London.
"At the time, it was thought that my condition was non-cancerous.
"The surgery was successful.
"However, tests after the operation found cancer had been present."
Mae'n dweud ei bod wedi cymryd amser i wella ar ôl y llawdriniaeth.
Mae nawr yn dechrau ar driniaeth chemotherapi ataliol.
"This came as a huge shock.
"William and I have been doing everything we can to process and manage this privately for the sake of our young family."
Mae ganddi'r neges yma i eraill sydd yn wynebu'r salwch.
"At this time, I'm also thinking of those affected by cancer.
"For everyone facing this disease in whatever form, please do not lose faith or hope.
"You are not alone."
Mae ugain mil o bobl Cymru yn derbyn yr un diagnosis bob blwyddyn.
Ac elusen Tenovus yn cydnabod bod y newyddion yn anodd i unrhyw un.
"Mae cael diagnosis canser yn anodd i unrhyw berson.
"Dim ots pa oedd na sefyllfa.
"I rywun weddol ifanc, mae'n sioc fawr iddyn nhw.
"Os oes plant gyda nhw blant mae delio efo plant hefyd yn mynd o fod yn gyfnod anodd.
"Byswn i'n meddwl bod nhw'n mynd trwy amser anodd ar hyn o bryd."
"Wonderful to see you looking so well."
Mae wedi bod yn gyfnod anodd i'r Teulu Brenhinol.
Ym mis Chwefror, gwnaeth y Brenin gyhoeddi ei fod e'n derbyn triniaeth am ganser.
Wedi i lun oedd wedi'i olygu gan Dywysoges Cymru gael ei ryddhau ar Sul y Mamau, roedd beirniadaeth gan nifer.
Ac yn ddiweddar, roedd rhagor o sôn wedi i luniau gael eu ffilmio o'r Tywysog William a'r Dywysoges Catherine gael eu cyhoeddi.
"Dw i'n meddwl mae lot i ofyn am strategaeth Palas Kensington yn hyn i gyd.
"Mae dau beth wedi digwydd.
"Pobl wedi bod yn gwneud theorïau gwyllt ar y cyfryngau cymdeithasol.
"Mae Kensington wedi caniatau gwagle i ddatblygu i'r straeon yna sydd yn anorfod wedi ychwanegu straen ar Kate a'r teulu."
I'r teulu yma, fel miloedd o deuluoedd ar draws Cymru a'r Deyrnas Unedig, bydd diagnosis o ganser wedi dod fel sioc.
Maen nhw nawr yn gofyn am breifatrwydd wrth i'r Dywysoges ddelio gyda'i thriniaeth.