Newyddion S4C

Cyngor Diogelwch yn galw am 'gadoediad ar unwaith' yn Gaza wrth i safiad yr Americanwyr newid

25/03/2024
newyn Gaza

Mae Cyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig wedi galw am "gadoediad ar unwaith yn Gaza" wrth i America benderfynu peidio â phleidleisio wrth i'r cynnig gael ei drafod.  

Mae'r datganiad hefyd yn mynnu bod yr holl wystlon yn cael eu rhyddhau "ar unwaith ac yn ddi-amod" 

Dyma'r tro cyntaf i aelodau'r Cyngor Diogelwch ddod i gytundeb drwy alw am gadoediad ers i'r rhyfel rhwng Hamas ac Israel ddechrau fis Hydref.

Pleidleisiodd 15 aelod or cyngor o blaid galw am gadoediad, wrth i America ymatal. Mae'r cam hwn gan yr Americanwyr yn codi cwestiynau am y berthynas rhyngddyn nhw ag Israel bellach, gyda'r ddwy wlad wedi bod yn gefnogol iawn i'w gilydd. 

Yn y misoedd diwethaf , roedd Roedd America wedi atal cynigion yn galw am gadoediad, gan ddadlau y byddai cam o'r fath yn anghywir, wrth i drafodaethau sensitif barhau rhwng Israel a Hamas.  

Ond ddydd Iau diwethaf, cyhoeddodd yr Americanwyr eu cynllun drafft eu hunain, yn galw am y tro cyntaf am gadoediad.

Mae America yn gynyddol feirniadol o Israel, wrth i nifer y marolwaethau gynyddu yn Gaza. Mae mwy na 32,000 o bobl, menywod a phlant yn bennaf, wedi eu lladd yno yn ystod ymosodiadau Israel, yn ôl y weinidogaeth iechyd sy'n cael ei rhedeg gan Hamas. 

Dechreuodd y rhyfel, ar 7 Hydref, wedi i Hamas, sy'n llywodraethu yn Gaza ymosod ar Israel, gan ladd 1,200 o bobl, yn ôl yr Israeliaid. 

Cafodd 254 o bobl eu cipio a'u cadw'n wystlon yn Gaza wedi'r ymosodiad hwnnw.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.