Newyddion S4C

Cau rhai amgueddfeydd yn sgil toriadau yn bosib

25/03/2024
Amgueddfeydd Cymru

Mae'n bosib y bydd yn rhaid cau rhai amgueddfeydd yng Nghymru yn sgil toriadau i'w cyllideb, meddai Pennaeth Amgueddfa Cymru.

Wrth siarad gyda The Guardian dywedodd Jane Richardson mai straeon pobl a'r casgliadau yw'r pethau pwysig a bod hi nawr yn amser "meddwl yn ddewr a chreadigol".

Mae Amgueddfa Cymru, sydd yn cynnwys saith safle ar draws Cymru, yn wynebu toriad o 10.5% yn ei chyllideb sydd tua £3 miliwn.

Wrth gydnabod bod yr adeilad yn bwysig ar gyfer rhai amgueddfeydd fel y Big Pit ac Amgueddfa Lechi Cymru, dywedodd nad oedd hyn yn wir ar gyfer adeiladau eraill.

"Nhw yw'r casgliad. Ond mae 'na amgueddfeydd eraill lle dyw'r adeilad ddim yn rhan o'r stori ond rydych chi'n treulio lot o amser ac egni yn meddwl sut i drwsio'r to," meddai.

Ychwanegodd y bydd angen iddynt fod yn well am feddwl am ffyrdd i gael arian ychwanegol i'r coffrau. Un opsiwn yw gadael i bobl letya ar eu safleoedd meddai.

Dywedodd hefyd wrth The Guardian bod hyn yn gyfle i ail edrych ar yr hyn y gall amgueddfa fod.

"Sut allwn ni estyn allan fwy a pheidio ymgolli cymaint yn y pedair wal a chanolbwyntio mwy ar gydweithio gyda phobl, cyrraedd llefydd newydd, mynd a'n casgliadau allan?" 

 

 

 

 

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.