Meddygon iau yng Nghymru yn dechrau eu streic hiraf erioed
Mae meddygon iau yng Nghymru yn dechrau eu streic hiraf erioed ddydd Llun.
Mae’r streic 96 awr yn dechrau am 07:00 fore Llun ac yn para tan 07:00 ddydd Gwener, ac fe allai dros 3,000 o feddygon streicio.
Dywedodd Cymdeithas Feddygol Prydain (BMA) fod y sefyllfa yn “hynod o drist” ond nad oes dewis gan fod cyflogau meddygon wedi gostwng traean mewn termau real dros y 15 mlynedd diwethaf.
Ond mae Llywodraeth Cymru yn mynnu mai’r 5% sy'n cael ei gynnig yw’r cyfan y maen nhw’n gallu ei fforddio.
Rhybuddiodd pennaeth GIG Cymru Judith Paget y bydd “effaith sylweddol” ar wasanaethau.
Dywedodd y dylai pobl, yn enwedig y rhai sydd â phresgripsiynau, gynllunio ymlaen llaw ar gyfer y streic sy'n digwydd ychydig cyn gwyliau banc y Pasg.
“Os ydych chi'n derbyn presgripsiynau rheolaidd, cynlluniwch ymlaen llaw cyn gŵyl banc y Pasg,” meddai.
“Gwnewch yn siŵr eich bod yn archebu eich presgripsiynau rheolaidd o leiaf saith diwrnod ymlaen llaw.”
Cynhaliodd y BMA streiciau yng Nghymru ym mis Ionawr a mis Chwefror