Newyddion S4C

Waspi: Jeremy Hunt yn gwrthod ymrwymo i gynllun iawndal

24/03/2024
Jeremy Hunt/Waspi

Mae’r Canghellor Jeremy Hunt wedi gwrthod ymrwymo i gynllun iawndal ar gyfer menywod gafodd eu geni yn yr 1950au, wedi i nifer cael eu heffeithio gan newidiadau i oedran pensiwn y wladwriaeth.

Wrth siarad ar raglen wleidyddol Laura Kuenssberg ddydd Sul, dywedodd Mr Hunt fod ymgyrch grŵp Waspi (‘Women Against State Pension Inequality’) i sicrhau iawndal yn “wirioneddol yn fwy cymhleth” nag oedd achosion eraill, fel sgandal y Swyddfa Bost.

Fe ddaw ei sylwadau wedi i’r Ombwdsmon Seneddol a Gwasanaeth Iechyd gyhoeddi ddydd Iau fod yr Adran Gwaith a Phensiynau wedi methu â chyfathrebu’r newidiadau yn ddigonol i’r rheiny oedd am gael eu heffeithio.

Dywedodd: “Fe gawsom ni adroddiad yr ombwdsman ddydd Iau, ond ‘dyn ni hefyd wedi derbyn adroddiad gan yr Uchel Lys a’r Llys Apêl yn 2020 sy’n dweud yr oedd Adran Gwaith a Phensiynau wedi gweithredu o fewn y gyfraith." 

Dywedodd bod angen i’r llywodraeth ddod o hyd i’r gwahaniaethau rhwng y ddau adroddiad, gan ychwanegu ei fod yn awyddus i’w “ddatrys cyn gynted ag y gallwn.”

“Ond does ‘na ddim pot cyfrinachol llawn arian chwaith,” ychwanegodd pan gafodd ei herio os yw’n “gyfrifol” i adael “biliau sydd heb ei dalu” i’r llywodraeth nesaf.

Ond roedd y Canghellor wedi dweud y byddai “clo triphlyg” ar gyfer pensiynau yn cael ei gynnwys ym maniffesto'r Torïaid ar gyfer yr etholiad cyffredinol nesaf.

Hanes

Cafodd menywod oedd yn disgwyl ymddeol wedi iddyn nhw gyrraedd 60 oed wybod yn 2010 y byddai'n rhaid disgwyl yn hirach am eu pensiwn gwladol yn dilyn newidiadau i’r oedran ymddeol. 

Daeth y newidiadau mewn ymdrech i sicrhau cydraddoldeb yn yr oedran ymddeol rhwng dynion a menywod, ac erbyn 2018, roedd yr oedran ymddeol ar gyfer menywod wedi cynyddu i 65 oed – yn unol â dynion.

Yn ôl Waspi, cafodd miloedd o fenywod eu heffeithio’n ariannol gan y newidiadau gan nad oeddent wedi cael eu rhybuddio amdanynt o flaen llaw – a hynny wedi achosi tlodi i rai. 

Yn ei adroddiad ddydd Iau, dywedodd yr ombwdsman y gallai Llywodraeth y DU fod yn wynebu talu iawndal rhwng £3.5 a £10.5 biliwn. Mae ymgyrchwyr Waspi wedi galw am swm uwch. 

Lluniau: PA

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.