Arestio dau ddyn o’r Trallwng ar amheuaeth o werthu cyffuriau
24/06/2021
Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi arestio dau ddyn o’r Trallwng ar amheuaeth o werthu cyffuriau Dosbarth A.
Roedd yr heddlu wedi apelio am wybodaeth i ddod o hyd i Martin John Gallagher, 35, a John Christopher Gallgher, 28, ddydd Mercher.
Daw hyn yn sgil cyrch diweddar yr heddlu ym mharc carafán Leighton Arches, ddydd Llun 21 Mehefin, fel rhan o'u hymchwiliad yn ymwneud â gwerthu cyffuriau.
Fe wnaeth y ddau ddyn cyflwyno eu hunain i'r heddlu nos Fercher yn dilyn yr apêl.