Newyddion S4C

Gwarchodaeth Britney Spears: Disgrifio’r trefniant fel ‘cam-drin’ 

The New York Times 24/06/2021
Britney Spears

Mae’r gantores Britney Spears wedi galw am ddod â’r rheolaeth gyfreithiol dros ei bywyd i ben. 

Mewn gwrandawiad yn Los Angeles ddydd Mercher, dywedodd y gantores ei bod eisiau “ei bywyd yn ôl”, gan ddisgrifio’r trefniant fel “camdriniaeth”.

Cafodd tad Ms. Spears, Jamie Spears, hawl i reoli materion personol a busnes ei ferch mewn trefniant ceidwadaeth (conservationship) yn 2008.

Daeth hyn yn dilyn pryderon am iechyd a lles Ms. Spears, gyda Mr. Spears yn cyflwyno deiseb i’r llys ar gyfer awdurdod cyfreithiol dros ei ferch. 

Ers hynny, mae llawer o ddyfalu wedi bod am deimladau’r gantores tuag at y trefniant, gan sbarduno’r ymgyrch ‘Free Britney’. 

Wrth siarad yn gyhoeddus am y trefniant am y tro cyntaf ers 2008, dywedodd Ms. Spears ei bod wedi “gwadu’r peth yn llwyr.” 

“Rydw i wedi bod mewn sioc. Rydw i wedi fy nhrawmateiddio,” meddai. 

“Rydw i eisiau fy mywyd yn ôl.”

Ychwanegodd ei bod wedi cael ei gwahardd rhag priodi a chael plant dan y trefniant.

Roedd Mr. Spears, 68 oed, yn gyfrifol am gyfoeth gwerth £60m ei ferch, nes iddo gamu lawr am y tro oherwydd rhesymau iechyd yn 2019.

Mae Ms. Spears eisiau gwneud hyn yn barhaol, gan ychwanegu yn y gwrandawiad ei fod ef a’i thîm rheoli wedi ei bygwth yn y gorffennol. 

Mae tîm cyfreithiol Jamie Spears eisoes wedi dweud ei fod wedi gwneud gwaith da o reoli cyllid ei ferch.

Y disgwyl yw y bydd proses gyfreithiol hir yn debygol cyn dod i unrhyw benderfyniad ynghylch a ddylai dod â’r geidwadaeth i ben. 

Darllenwch y stori’n llawn yma.

Llun: hnkkk 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.