Newyddion S4C

Tywysoges Cymru yn derbyn triniaeth am ganser

22/03/2024
kate.png

Mae Palas Kensington wedi cadarnhau fod Tywysoges Cymru yn derbyn triniaeth am ganser ar hyn o bryd. 

Dywedodd y palas ddydd Gwener ei bod wedi dechrau derbyn triniaeth cemotherapi fis diwethaf.

Fe gafodd y canser ei ddarganfod mewn profion a gafodd eu gwneud ar ôl iddi dderbyn triniaeth ar yr abdomen ym mis Ionawr.

Nid yw'r math o ganser wedi cael ei ddatgelu ar hyn o bryd.

Mewn neges bersonol, dywedodd y Dywysoges: "Mae hyn wedi bod yn dipyn o sioc, ac mae William a minnau wedi bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i brosesu a rheoli hyn yn breifat er lles ein plant ifanc.

"Fel y gallwch ddychmygu, mae hyn wedi cymryd amser. Mae wedi cymryd amser i mi wella o lawdriniaeth fawr er mwyn dechrau fy nhriniaeth. Ond yn bwysicach oll, mae wedi cymryd amser i egluro popeth i George, Charlotte a Louis mewn ffordd sy'n addas iddynt, ac i dawelu eu meddwl fy mod i am fod yn iawn.

"Fel dwi wedi ei ddweud wrthynt, dwi'n cryfhau bob dydd ac yn canolbwyntio ar y pethau a fydd yn fy helpu i wella; yn fy meddwl, fy nghorff a fy ysbryd."

Cyhoeddodd Palas Kensington ym mis Ionawr fod Catherine Middleton yn yr ysbyty wedi iddi dderbyn triniaeth ar yr abdomen. 

Yn ôl y palas, roedd y driniaeth yn llwyddiannus ac fe arhosodd yn yr ysbyty am 10 i 14 diwrnod.

Cyhoeddodd Palas Buckingham ym mis Ionawr hefyd fod y Brenin Charles wedi cael gwybod fod ganddo ganser.

Cafodd y canser ei ddarganfod yn ystod ei driniaeth ddiweddar ar y prostad, ond nid yw wedi cael diagnosis canser y prostad.  

Yr ymateb o Gymru

Wrth ymateb i'r newyddion, dywedodd Prif Weinidog newydd Cymru, Vaughan Gething: "Trist iawn clywed y newyddion am Dywysoges Cymru.

"Ar ran pobl ledled Cymru, hoffwn anfon pob dymuniad gorau a'n cefnogaeth at y Dywysoges a'i theulu yn ystod yr amser anodd iawn yma.

"Mae ein meddyliau gyda chi wrth i chi barhau â'ch triniaeth."

Dywedodd Andrew RT Davies, Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig: "Rwy'n anfon fy nymuniadau gorau iddi am wellhad llwyr a buan. 

"Mae fy meddyliau gyda'r Teulu Brenhinol i gyd ar adeg sydd wedi bod yn anodd iawn."

Dywedodd Rhun ap Iorwerth, Arweinydd Plaid Cymru: "Mae creulondeb canser yn cyffwrdd bywydau nifer o deuluoedd.

"Ar ran Plaid Cymru, rwy'n estyn fy nghydymdeimladau a dymuniadau gorau i'r Dywysoges mewn cyfnod a fydd yn anodd iddi hi a'i theulu ifanc."




 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.