Newyddion S4C

Pêl-droed: Cei Connah a Bala yn cystadlu am le yn rownd derfynol Cwpan Cymru JD

Sgorio 23/03/2024
Cei Connah

Bydd Caernarfon yn herio Met Caerdydd yn y Cymru Premier JD brynhawn dydd Sadwrn, tra bod Cei Connah a Bala yn mynd benben a'i gilydd yn Llandudno am le yn rownd derfynol Cwpan Cymru JD.

Dyma gipolwg ar y ddwy gêm:

Cymru Premier JD

Caernarfon (4ydd) v Met Caerdydd (6ed) | Dydd Sadwrn – 14:30 

Yn unig gêm gynghrair y penwythnos, bydd carfan hyderus Caernarfon yn croesawu Met Caerdydd, sydd ar rediad gwael ar hyn o bryd.

Gyda dim ond un golled yn eu wyth gêm ddiwethaf (vs YSN) mae Caernarfon wedi codi i’r 4ydd safle, bedwar pwynt uwchben Y Drenewydd a Met Caerdydd.

Mae yna wyth pwynt yn gwahanu Caernarfon a’r Bala yn y ras i orffen yn y tri uchaf, ond bydd y Caneris yn teimlo’n ffyddiog cyn y gemau ail gyfle gyda’r timau sydd o’u cwmpas yn stryffaglu yn ddiweddar.

Enillodd Caernarfon y gemau ail gyfle yn 2021/22, sef yr unig dymor ble nad oedd enillwyr y gemau ail gyfle yn cyrraedd Ewrop, ond yn hytrach yn camu i Gwpan Her yr Alban, ac felly mae’r Cofis yn dal i ysu am eu blas cyntaf o bêl-droed Ewropeaidd.

Mae Met Caerdydd yn llygadu lle’n Ewrop am y tro cyntaf ers 2019, ond ar ôl mynd ar rediad o 10 gêm gynghrair heb ennill am y tro cyntaf ers tair blynedd mae’r gobaith yn pylu yn y brifddinas.

Roedd Caernarfon wedi ennill wyth gêm yn olynol yn erbyn Met Caerdydd cyn i’r timau gael dwy gêm gyfartal o 2-2 yn y ddeufis diwethaf.

Felly mae’r Cofis yn parhau ar rediad o 10 gêm heb golli yn erbyn y myfyrwyr ac mae Sion Bradley wedi sgorio pedair gôl mewn tair gêm yn erbyn Met Caerdydd y tymor hwn, yn cynnwys tair cic rydd.

Record cynghrair diweddar: 

Caernarfon: ✅➖✅❌➖

Met Caerdydd: ͏❌❌❌❌➖

Cwpan Cymru JD - Rownd Gynderfynol

Cei Connah v Y Bala | Dydd Sadwrn – 17:15 (Parc Maesdu, Llandudno)

Am yr ail dymor yn olynol bydd Cei Connah a’r Bala yn mynd benben yn rownd gynderfynol Cwpan Cymru JD, a bydd yr enillwyr yn wynebu unai’r Seintiau Newydd neu Met Caerdydd yn y rownd derfynol ar ddydd Sul, 28 Ebrill yn Rodney Parade, Casnewydd.

Y Bala oedd yn fuddugol yn y rownd gynderfynol y tymor diwethaf, yn ennill 3-2 ar Gae-y-Castell gyda goliau gan Nathan Peate, George Newell a Chris Venables yn gyrru tîm Colin Caton i’r rownd derfynol am yr eildro yn eu hanes.

Y Bala oedd enillwyr Cwpan Cymru 2017, yn curo’r Seintiau Newydd yn y rownd derfynol yn Nantporth, ac roedden nhw’n anelu i ail-adrodd hanes y tymor diwethaf, ond fe gollon nhw’n drwm o 6-0 yn erbyn y Seintiau, sef y golled fwyaf mewn ffeinal ers 1931.

Enillodd Cei Connah y gwpan yn 2018 ar ôl curo Aberystwyth o 4-1 ar Barc Latham dan reolaeth Andy Morrison, ac mae gan y rheolwr presennol Neil Gibson atgofion melys o godi’r cwpan fel chwaraewr-reolwr Prestatyn yn 2013.

Mae Cei Connah chwe phwynt uwchben Y Bala yn y tabl, ond dyw’r Nomadiaid heb fod ar eu gorau yn ddiweddar gan golli tair gêm gynghrair yn olynol am y tro cyntaf ers Hydref 2015.

Mae’n stori wahanol yn Y Bala gan eu bod nhw wedi colli dim ond mewn 10 ym mhob cystadleuaeth (vs YSN), gan ennill pob un o’u wyth gêm ddiwethaf oddi cartref.

Y Bala’n sicr sydd wedi cael y gorau o bethau yn y gemau diweddar rhwng y clybiau yma gan golli dim ond un o’r wyth gornest flaenorol rhwng y timau (ennill 4, cyfartal 3).

Mae’r ddau glwb mewn safle ffafriol i sicrhau lle yn Ewrop eleni, ond byddai ennill y gêm hon yn gam mawr at gadarnhau hynny.

Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio a’r gorau o gyffro’r penwythnos i’w weld ar S4C nos Lun.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.