Newyddion S4C

Hen bobl yn ei 'chael hi'n anodd' cael apwyntiad gyda meddyg teulu yng Nghymru

22/03/2024

Hen bobl yn ei 'chael hi'n anodd' cael apwyntiad gyda meddyg teulu yng Nghymru

Ymarfer wythnosol Cor Hen Nodiant ble mae pob nodyn yn falm i'r enaid.

Ond mae ceisio cael apwyntiad gyda'r meddyg teulu yn brofiad llawer llai pleserus i rai o'r bobl.

"Newides i practis o'r Barri lan i Bentre'r Eglwys cyn Covid.

"Fi erioed wedi gweld doctor teulu.

"Fydden i'm yn nabod e os fyse fe'n cerdded trwyddo nawr.

"Dwi 'di siarad ar e-consult neu ar y ffôn ond fi erioed wedi gweld e.

"Fi'n appalled rili achos pan ti'n dod i'n oedran i ti methu aros tair wythnos am apwyntiad os y'ch chi'n sâl, chi'n sal y diwrnod hynny."

"Mae cael gafael ar ddoctor pan 'dach chi isho yn creu problem lawer tro.

"Mae'r ddeffro am wyth y bore a ffeindio bod chi rhif 32 ar y ffôn, wrth gwrs yn eithriadol o frustrating ond yn y diwedd, mae cynnig sgwrs dros y ffôn yn dorcalonnus oherwydd be dach chi isio ydy cyfathrebu'n uniongyrchol efo'r doctor."

Yn ôl adroddiad beirniadol gan y Comisiynydd Pobl Hŷn mae nifer fawr o bobl dros 60 oed yng Nghymru yn ei chael hi'n anodd cael apwyntiad gyda meddyg teulu.

O drafferthion wrth geisio cysylltu â'u meddyg dros y ffôn neu'r we i deimlo bod yr apwyntiadau sydd yn cael eu cynnig yn anaddas.

Mae'r comisiynydd yn rhybuddio felly am effaith niweidiol hyn ar iechyd pobl hŷn.

"Be 'dan ni wedi clywed ydy bod 'na rai pobl hŷn yn dioddef yn ddistaw ac mae eu hiechyd nhw'n dioddef oherwydd hynny ac yn mynd yn waeth gan achosi loes a phryder mawr.

"Mae cael mynediad at feddyg teulu yn hollbwysig."

Mae Llywodraeth Cymru'n dweud eu bod am wneud yn siŵr fod pobl yn gallu cael mynediad i wasanaethau meddyg teulu y gwasanaeth iechyd mor gyflym â phosibl ac yn ddibynnol ar eu hanghenion.

Maen nhw wedi buddsoddi £20 miliwn mewn Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol gan ddweud taw dyma'r buddsoddiad uchaf ers sawl blwyddyn.

Nôl yn Nhreganna, a mae'r ymarfer yn parhau.

Ond nid pawb sydd wedi profi'r un rhwystredigaeth.

"Yn ffodus iawn, dw i'm yn gorfod mynd yn rhy aml.

"Ond yr un tro o'n i'n gorfod mynd 'whare teg wnes i alw'r ffôn peth cynta'r bore a ges i fynd mewn diwrnod ar ôl 'ny i gwrdd â'r meddyg."

Y gobaith felly yw y bydd ymweld â'r meddyg yn brofiad haws a phositif i bawb.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.