Newyddion S4C

Rhun ap Iorwerth: 'Byddai Plaid yn cydweithio gyda'r blaid Lafur eto'

22/03/2024
Rhun ap Iorwerth

Bydd Plaid Cymru yn agored i gydweithio gyda’r blaid Lafur unwaith eto yn y Senedd, meddai ei arweinydd, Rhun ap Iorwerth. 

Wrth siarad cyn cynhadledd Plaid Cymru ddydd Gwener, dywedodd Mr ap Iorwerth y byddai’n ystyried cytundeb cydweithredu gyda phleidiau eraill, a hynny er lles cymunedau’r wlad. 

Yn 2021, fe wnaeth Plaid a'r Llywodraeth Lafur gytuno i gydweithio mewn 46 maes polisi dros gyfnod o dair blynedd.

Er oedd Plaid yn parhau fel gwrthblaid, roedd ganddyn nhw’r gallu i benodi cynghorwyr penodol yn y llywodraeth. 

Ond mae disgwyl i’r cytundeb hwnnw dod i ben ddiwedd 2024 ac mae’n annhebygol y byddai’n cael ei adnewyddu cyn etholiadau’r Senedd yn 2026.

Wrth siarad ag asiantaeth newyddion PA, dywedodd Rhun ap Iorwerth: “A fyddwn i’n fodlon gweithio gydag eraill er mwyn sicrhau lles Cymru a chymunedau Cymreig?

“Wel, byddaf. Dylwn ni i gyd – pa bynnag lliw gwleidyddol ydyn ni – ddod o hyd i ffyrdd o gydweithio.

“Lle’r ydyn ni wedi gallu cytuno ar set o bolisïau y mae Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru yn meddwl sy’n bwysig, byddwn i wastad yn barod i weld sut allai hynny gael ei wireddu… ‘Dych chi wastad yn edrych am ffyrdd o gydweithio,” meddai.

'Opsiwn gwahanol'

Roedd yr Aelod Senedd dros Ynys Môn hefyd yn awyddus i nodi nad oes Llywodraeth Cymru erioed wedi cael ei arwain gan un blaid yn unig sydd a’r mwyafrif, gan awgrymu cafodd y system ei ddylunio adeg datganoli i “hyrwyddo cydweithrediad.” 

Dywedodd y byddai newid i system y Senedd i fod yn "fwy cymesur" yn hyrwyddo cydweithio trawsbleidiol ymhellach. Bydd 36 aelod ychwanegol o’r Senedd yn cael eu cyflwyno o 2026 ymlaen. 

Wrth edrych ymlaen at yr etholiad cyffredinol nesaf, dywedodd Mr ap Iorwerth ei fod awyddus i gael gwared a’r Torïaid yn Llywodraeth y DU, gan ddweud fod ei blaid yn cynnig “opsiwn gwahanol” i bobl yng Nghymru.

“Ond ‘dyw e ddim fel bod gynnon ni llywodraeth Lafur sydd yn llawn syniadau a gweledigaeth newydd sy’n rhoi neges glir i Gymru am pam ddylai’r wlad ymddiried yn ei blaid nhw gyda’u pleidleisiau chwaith,” meddai. 

Dywedodd nad oedd arweinydd plaid Lafur y DU, Syr Keir Starmer wedi “sôn dim” am gyllid tecach i Gymru, neu wedi sôn am os byddai’r wlad yn cael derbyn arian ychwanegol y mae e’n dweud sy’n ddyledus o ystyried trefniadau ariannu rheilffordd yr HS2.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.