'Gwarthus': Bron i draean o blant mewn tlodi yng Nghymru yn ôl ffigyrau newydd
Mae elusen plant wedi dweud ei fod yn "frawychus" bod ffigyrau newydd yn dangos bod bron i draean o blant Cymru yn byw mewn tlodi cymharol.
Mae’r ffigyrau sydd wedi eu cyhoeddi gan yr Adran Gwaith a Phensiynau wedi awgrymu bod 29% o blant yng Nghymru yn byw mewn tlodi cymharol.
Mae aelwyd yn cael ei hystyried fel un sy’n byw mewn tlodi cymharol os yw’n byw ar lai na 60% o incwm canolrifol y Deyrnas Unedig.
Roedd gan Blaenau Gwent y lefel uchaf o blant mewn tlodi cymharol o unrhyw awdurdod lleol yng Nghymru, sef 28.1%.
Mewn ymateb, dywedodd Llywodraeth Cymru bod taclo tlodi plant yn “brif flaenoriaeth”.
Ond dywedodd Melanie Simmonds, pennaeth Achub y Plant Cymru, bod y ffigyrau yn “warth".
“Dylai’r ffigurau brawychus yma fod yn ysgytwad i bob un ohonom; ni allwn fynd ymlaen fel hyn," meddai.
“Mae angen system nawdd gymdeithasol digonol ar deuluoedd i’w cadw allan o dlodi, ac sy’n rhoi lefel sylfaenol o sicrwydd iddynt.
“Rhaid i Lywodraeth y DU gael gwared ar y terfyn annheg o ddau blentyn, a chyflwyno ‘clo plant’ ar nawdd cymdeithasol plant i amddiffyn plant rhag dioddef caledi.
“Dylai mynd i’r afael ag effaith ddinistriol tlodi ar fywydau plant fod yn flaenoriaeth i’n Prif Weinidog newydd hefyd. Byddai penodi Gweinidog dros Fabanod, Plant a Phobl Ifanc gyda throsolwg ac atebolrwydd am bob polisi sy’n effeithio ar blant yn ddechrau gwych yn gyfochrog â chynllun cyflawni gyda thargedau mesuradwy fel rhan o’r Strategaeth Tlodi Plant.”
'Her'
Dyma restr lawn o gyfran y plant dan 16 oed yng Nghymru sy’n byw mewn teuluoedd incwm isel cymharol, fesul awdurdod lleol.
Mae tri ffigwr ar gyfer pob awdurdod, o’r chwith i’r dde: y gyfran yn 2014/15, y flwyddyn gyntaf yn y gyfres ddata; y gyfran yn 2019/20, y flwyddyn cyn-bandemig ddiweddaraf; a’r gyfran yn 2022/23, y flwyddyn ddiweddaraf.
Mae’r rhestr wedi’i threfnu yn ôl y cyfrannau diweddaraf, gan ddechrau gyda’r uchaf.
– Blaenau Gwent: 25.7% (2014/15) - 27.8% (2019/20)- 28.1% (2022/23)
– Merthyr Tydfil: 22.9% - 23.9% - 25.5%
– Ceredigion: 17.8% - 23.0% - 25.4%
– Ynys Môn: 18.9% - 22.1% - 24.3%
– Casnewydd: 21.3% - 22.4% - 23.8%
– Sir Benfro: 19.5% - 23.6% - 23.7%
– Rhondda: Cynon Taf: 20.5%- 23.8% - 23.4%
– Gwynedd: 17.9% - 21.8% - 23.1%
– Sir Ddinbych: 16.4% - 20.8% - 22.7%
– Torfaen: 18.9% - 21.0% - 22.5%
– Conwy: 17.3% - 20.5% - 22.3%
– Sir Gaerfyrddin: 18.7% - 22.1% - 22.1%
– Powys: 17.7% - 20.2% - 21.8%
– Caerffili: 19.2% - 22.5% - 21.8%
– Caerdydd: 18.1% - 21.1% - 21.0%
– Castell-nedd Port Talbot: 17.4% - 20.4% - 20.9%
– Abertawe: 16.8% - 19.3% - 20.0%
– Wrecsam: 16.1% - 21.9% - 19.8%
– Penybont: 16.4% - 19.1% - 19.8%
– Sir y Fflint: 14.5% - 16.4% - 18.1%
– Bro Morgannwg: 13.4% - 15.0% - 16.1%
– Sir Fynwy: 12.4% - 13.8% - 14.5%
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Rydyn ni wedi ymrwymo i daclo tlodi plant fel prif flaenoriaeth. Mae’r ystadegau ar gyfer tlodi plant yn dangos maint yr her yma yng Nghymru.
“Rhaid i’n hymdrechion ar y cyd barhau i ganolbwyntio ar fuddiannau’r genhedlaeth bresennol o blant a phobl ifanc, yn ogystal â chenedlaethau’r dyfodol.
“Mae ein Strategaeth Tlodi Plant newydd yn nodi ein huchelgeisiau ar gyfer y tymor hirach ac yn amlinellu sut y byddwn yn gweithio ar draws y Llywodraeth a chyda phartneriaid i wneud y mwyaf o effaith yr ysgogiadau sydd ar gael inni."
Mae'r Llywodraeth hefyd wedi galw ar Lywodraeth y DU i gymryd camau ymarferol pellach i wneud "gwahaniaeth go iawn" i’r rhai sy’n cael eu taro galetaf.